Ar ôl dwy flynedd o fod ar lein, roedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn ôl, gyda Maes go iawn yn rhoi'r cyfle i bobl ddal fyny hyd yn oed yn fwy na'r arferol.
Wedi dechrau wythnos eithaf glawog, fe ddaeth yr haul - a gyda hynny bu nifer fawr yn mwynhau'r gigs ar Lwyfan y Maes yn ystod y dydd a gyda'r nosau. Ac oedd, roedd teilyngdod hefyd.
Dyma gasgliad o'r lluniau sy'n rhoi cip ar stori'r ŵyl o orielau Cymru Fyw yn ystod yr wythnos.
Erin o Fryniwan, ger Caerfyrddin yn helpu Taid gyda'r troliMerin yn fodlon wrth Bar Williams Parry - bar newydd Maes yr EisteddfodY bandiau pres sy'n cystadlu ar benwythnos cynta'r Eisteddfod, ac mae'n bwysig cynhesu'r offeryn gefn llwyfan cyn perfformioAled LlywelynYma o Hyd - Dafydd Iwan ar Lwyfan y Maes nos SulAled Llywelyn... ac roedd miloedd o bobl o bob oed yn ei wylioAled LlywelynOsian, sy'n chwe blwydd oed ac yn dod o Gaerfyrddin, yn canolbwyntio tra'n defnyddio'r bwa a saethEsyllt Maelor, enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022Ifan o Benrhyn-coch, yn cofleidio un o eiconau Cymru, Mistar UrddAelodau o Gôr Meibion y Mynydd yn cyfarfod dros beint yn y Pentre' BwydEuros o Ysbyty Cynfyn, Ponterwyd, yn mwynhau ei Steddfod gyntafPwy sy'n edrych ar bwy? Mwynhau yn y Lle CelfGwilym Bowen Rhys yn morio canu ym mhabell Coleg Cymraeg CenedlaetholY gynulleidfa'n mwynhauDafydd OwenPeidiwch â gwneud hyn gartref... arbrawf ffrwydrol gyda TSE yn y pentref Gwyddoniaeth a ThechnolegRoedd dros 200 o bobl ym mhrotest Cymdeithas yr Iaith am y sefyllfa ail daiUn o'r nifer o berfformiadau theatr stryd ar y MaesIolo PenriY Prif Weinidog Mark Drakeford - neu 'Mark Pengwern' yn ôl ei enw barddol - yn cael ei dderbyn i'r Orsedd, a hynny i gymeradwyaeth hiraf y seremoniIolo PenriEnillydd y Gadair Llŷr Gwyn Lewis yn cael ei gadeirio gan yr Archdderwydd Myrddin ap DafyddAled LlywelynDechreuodd dydd Sadwrn ola'r Eisteddfod gyda dirgelwch... diflaniad rhai o lythrennau'r gair Eisteddfod ar y Maes. Roedd rhai'n dweud mai trefnwyr yr ŵyl oedd tu cefn i'r cyfan, eraill yn amau bod Twm Siôn Cati yn ôl yn yr ardalAled LlywelynY mezzo-soprano o Ddinbych Ceri Haf Roberts wnaeth ennill Gwobr Goffa David Ellis - Y Rhuban GlasAled Llywelyn