Sport

Mae Cymru wedi profi deuddydd o wres mawr - y poethaf ar record ddydd Llun wrth i'r tymheredd gyrraedd 37.1C ym Mhenarlâg, Sir y Fflint.

Dyma rai o'r golygfeydd drwy'r wlad dros y cyfnod byr o boethder cyn i'r rhagolygon ddarogan ychydig o law mewn rhai ardaloedd ar ôl dydd Mawrth.

Pontwn Llanberis yn llawn pobl ifanc yn ceisio cadw'n oer
Roedd pontŵn Llanberis dan ei sang o bobl ifanc yn ceisio cadw'n oer yn y gwres mawr ddydd Llun
Llyn Padarn
Llwyddodd ambell un i ddod o hyd i dawelwch ar y dŵr yn Llyn Padarn drwy fentro ymhellach i ganol y llyn
Bachgen yn rhoi dwr ar ei wyneb
Yn y Sioe Frenhinol roedd Harm, 8 oed, o'r Iseldiroedd wedi dod o hyd i dap dŵr i geisio cadw'r gwres i lawr
Ffan yn cadw'r gwartheg yn oer yn y Sioe fawr
Yn y sied wartheg hefyd roedd angen helpu'r anifeiliaid rhag gorboethi
Ymwelwyr yn mwynhau diod ym Miwmares
Greg, Andy a Josh, ymwelwyr o Gilgwri (y Wirral) yn mwynhau peint yn yr haul ar ôl bod yn y môr ym Miwmares, Ynys Môn
Stryd ym Mhenarlag
Stryd boeth ym Mhenarlag, Sir y Fflint, y lle poethaf yng Nghymru ddydd Llun, erioed, yn ôl cofnodion, gyda thymheredd o 37.1C
pobl ar y traeth yn Llandudno
Roedd llawer wedi gwrando ar y cyngor i aros mewn yn ystod y tywydd poethaf ond roedd ambell un wedi dod i fwynhau traeth Llandudno
Plant yn barod i fyn di'r llyn yn Nglan-llyn
Dŵr oer Llyn Tegid yn gwahodd wrth i blant yng ngwersyll yr Urdd, Glan-llyn, gysgodi dan goeden Gwersyll yr Urdd Glan-llyn
Cysgodi yn Sioe Llanelwedd
A diolch byth am y coed yn gysgod nôl yn y Sioe Fawr ddydd Mawrth hefyd
Ymwelwyr yn tynnu lluniau wrth y ty lleiaf yng Nghonwy
Roedd llai o ymwelwyr nag arfer yng Nghonwy - mwy o gyfle i'r rhai oedd wedi mentro i gael tynnu eu llun wrth y Tŷ Lleiaf yng Nghymru felly
ciw am hufan ia
A dipyn o fynd ar y stondin gwerthu hufen iâ
Y ddaear yn sych
Anfonodd Tudur Davies luniau o'r ddaear yn sych grimp yn Nyffryn Clwyd Tudur davies
Afon Elwy yn isel
Ac Afon Elwy yn isel Tudur Davies
RNLI ym Mhorthcawl
Roedd gwasanaethau achub yn rhoi cyngor am nofio yn ddiogel ym Mhorthcawl ddydd Mawrth
Traeth Porthcawl
Gyda'r traeth ym Mhorthcawl yn weddol llawn daeth y cymylau ag ychydig o law hefyd - arwydd bod y sbel o dywydd eithriadol boeth ar drai
Caeau melyn
Bydd y caeau melyn ger Diserth yn Nyffryn Clwyd yn falch o unrhyw ddiferion a ddaw Tudur Davies