Sport

Cymru
Bydd Cymru yn teithio i Qatar ym mis Tachwedd ar gyfer Cwpan y Byd 2022, 64 mlynedd ers iddyn nhw gyrraedd y gystadleuaeth ddiwethaf Getty Images

Na, nid breuddwydio ydach chi o hyd, mae o wir wedi digwydd - mae Cymru o'r diwedd wedi cyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf mewn 64 mlynedd!

Ar ôl dau Ewros yn olynol, mae sêr y genhedlaeth aur wedi cyflawni'r un peth oedd yn weddill iddyn nhw mewn pêl-droed rhyngwladol, a sicrhau eu lle yn y llyfrau hanes unwaith ac am byth.

Felly beth sy'n disgwyl y tîm - a chefnogwyr y Wal Goch - yn y twrnament yn Qatar?

A beth ydi'r gobeithion yn y gystadleuaeth ei hun? Does bosib na welwn ni haf fel Euro 2016 fyth eto, nac oes?

Wal Goch
Dyma'r garfan lawn fydd mwy na thebyg yn cynrychioli Cymru yn Qatar ddiwedd y flwyddyn Getty Images

Mae Cwpan y Byd eleni'n cael ei chwarae yn Qatar rhwng 21 Tachwedd a 18 Rhagfyr, y tro cyntaf i'r gystadleuaeth gael ei chynnal yn ystod y gaeaf.

Mae'n wlad sydd hanner maint Cymru, a phedwar o'r stadiymau sy'n cael eu defnyddio wedi'u lleoli o gwmpas y brifddinas, Doha.

Gyda gemau grŵp Cymru'n cael eu chwarae ar 21, 25 a 29 Tachwedd, mae'n golygu eu bod nhw'n rhan o ddiwrnod agoriadol y twrnament - ond hefyd y gallen nhw fod adref cyn i ni agor ein calendr Adfent!

Bydd eu holl gemau grŵp yn cael eu chwarae yn Stadiwm Ahmad bin Ali yn Al Rayyan, sy'n dal bron i 45,000 o gefnogwyr.

Gwrthwynebwyr

Mae grwpiau Cwpan y Byd wedi cael eu dewis yn barod, a Chymru'n gwybod eisoes felly eu bod nhw mewn grŵp efo'r UDA, Iran a Lloegr (ia, eto!).

Cymru oedd y detholion isaf, ond dim ond oherwydd eu bod nhw wedi gorfod dod drwy'r gemau ail gyfle i gyrraedd.

Yn rhestr detholion y byd FIFA mae Lloegr yn bumed, gyda'r UDA yn 15fed, Cymru'n 18fed, ac Iran yn 21ain - ar y sail yna felly, grŵp 'cryfaf' y gystadleuaeth.

Lloegr ydi'r ffefrynnau clir gan y bwcis i ennill y grŵp ar hyn o bryd, ond maen nhw hefyd yn rhoi siawns o tua 50% i Gymru orffen yn y ddau uchaf a chyrraedd rownd yr 16 olaf.

Pulisic, Kane ac Azman
(O'r chwith top) Christian Pulisic o UDA, Harry Kane yn chwarae i Loegr a Sardar Azman yn cynrychioli Iran Getty Images
line break

Trefn y gemau:

UDA v Cymru, Dydd Llun 21 Tachwedd, 19:00 GMT

Cymru v Iran, Dydd Gwener 25 Tachwedd, 10:00 GMT

Cymru v Lloegr, Dydd Mawrth 29 Tachwedd, 19:00 GMT

Carfan Cymru

Cofiwch mai rheolwr dros dro ydi Rob Page o hyd - ac yntau wedi gwneud swydd gampus ers camu i'r adwy yn sgil helyntion achos llys Ryan Giggs.

Does neb yn disgwyl mai unrhyw un ond Page fydd yn cael y dasg o arwain y garfan i Qatar, ei ail dwrnament gyda'r tîm mewn llai na dwy flynedd.

Ond mae'n bosib y gallai Cwpan y Byd Qatar 2022 fod yn ffarwel olaf i rai o'r sêr mwyaf cyfarwydd fel Gareth Bale, Aaron Ramsey, Wayne Hennessey, Joe Allen a Chris Gunter.

Ar y llaw arall, bydd y misoedd nesaf yn gyfle i sawl un o chwaraewyr ifanc Cymru frwydro am le yn y garfan i Qatar - gan gynnwys rhai fel Rabbi Matondo fethodd ar y cyfle i fynd i Euro 2020.

Yr unig baratoad fydd gan Page cyn Cwpan y Byd fydd pum gêm yng Nghynghrair y Cenhedloedd - tair fis yma, a dwy ym mis Medi, ac felly dyma gyfle mawr rhai o'r sêr ifanc i hawlio'u lle.

Rob Page
Rheolwr dros dro Cymru ydi Rob Page o hyd, yn sgil helyntion achos llys Ryan Giggs Getty Images

Problemau

Gallai Cwpan y Byd eleni fod yn broblematig ar sawl lefel.

Yn ymarferol yn gyntaf, mi fydd hi'n dipyn o her i gefnogwyr deithio yno ar gyfer y gystadleuaeth, gyda thocynnau awyr yn ddrud a phrinder llety yn y wlad.

Mae hynny wedi arwain at lywodraeth Qatar yn mynnu bod holl lety'r wlad ar gael ar gyfer y cefnogwyr pêl-droed yn unig - ond gan fod angen tocyn i gêm Cwpan y Byd er mwyn archebu lle i aros, dydy'r Cymry ddim wedi gallu gwneud unrhyw beth hyd yma.

Mae'r trafferthion llety a theithio yn golygu bod nifer yn ystyried aros mewn dinasoedd a gwledydd cyfagos fel Dubai, Saudi Arabia neu Kuwait, a theithio i Doha ar gyfer y gemau.

Mae'r gwres llethol hefyd yn bryder - y prif reswm pam nad ydi'r twrnament yn digwydd yn yr haf, pan mae'r tymheredd cyfartalog dros 36 gradd Celsius.

FIFA
Cyhoeddi mai Qatar fyddai'n cynnal y twrnament, nôl yn 2010 Getty Images

Er ei fod yn gostwng i rywle rhwng 20-25 gradd erbyn adeg Cwpan y Byd, bydd dal rhaid mynd â digon o eli haul efo chi.

Yn ehangach na hynny, mae 'na feirniadaeth wedi bod ers blynyddoedd o'r ffordd y cafodd y wlad ei dewis i gynnal y twrnament, a hithau mor fach ac heb ddigon o feysydd priodol ar y pryd.

Arweiniodd hynny at bryderon pellach, gyda miloedd o weithwyr mudol wedyn yn marw wrth adeiladu'r stadiymau newydd hynny.

Mae'r wlad hefyd wedi cael ei beirniadu am ei record hawliau dynol, gan gynnwys tuag at fenywod a phobl LHDTC+ (LGBTQ+).

Digon o ffactorau i'w hystyried felly i aelodau'r Wal Goch sy'n meddwl teithio yno - a bosib iawn na welwn ni grysau cochion yn yr un niferoedd ag yr oedd yn Ffrainc yn 2016.