Sport

Ceffyl buddugol
Millie, pump oed o Ynys Môn, ddaeth yn gyntaf yn yr adran merlod Cymreig wedi ei reidio Arwyn Herald

Mae ganddi le arbennig yng nghalendr y sioeau amaethyddol fel y gynta' yn y flwyddyn, ac wedi dwy flynedd o ohirio oherwydd Covid-19 roedd 'na hen edrych ymlaen at Sioe Nefyn eleni.

Ac roedd hynny'n amlwg ar 2 Mai meddai'r trefnwyr, sy'n credu eu bod wedi torri record gyda mwy yn dod i gaeau Botacho Wyn eleni nag erioed o'r blaen.

Linebreak
Y dorf yn cyrraedd
Croeso nol! Dywedodd Eirian Lloyd Hughes, Cadeirydd Sioe Nefyn, bod nifer y ceir yn y meysydd parcio yn awgrymu'n gryf bod mwy wedi dod i'r sioe eleni nag erioed o'r blaen Arwyn Roberts
Bachgen gyda dafad a tharian
Tom, 10 oed, o Rydymain, Bugail Ifanc y Sioe Arwyn Robersts
Ceffyl buddugol
Eva o Ynys Môn, oedd yn gyntaf yn y dosbarth ceffylau ifanc di-brofiad sydd heb eu dangos o'r blaen, a dim mwy nag 14.2 mewn uchder Arwyn Roberts
Criw yn cael paned
Teulu Jones, o Benrhyndeudraeth, yn cael picnic ar y Maes Arwyn Roberts
Tarw buddugol a'i berchnogion
Lyn Foxwell, o Harlech, a Gwilym Jones efo'u tarw du Cymreig ddaeth yn bencampwr y sioe Arwyn Roberts
Dyn gyda hen gar
Emyr Jones, o Abererch, yn arddangos ei Mini Cooper 1966 Arwyn Roberts
Dafad fuddugol
Lara o Langybi, gyda phencampwr y Dorset. Lara hefyd enillodd bugail ifanc y sioe o dan 18 Arwyn Roberts
Nain a wyres gyda hufen ia
Sophie a'i nain Eleri Griffiths o Bwllheli Arwyn Roberts
Enillwyr adran gwartheg
Enillwyr yr adran wartheg Arwyn Roberts
Dafad fuddugol
Melfyn Williams o Frynsiencyn, Ynys Môn, pencampwr adran y defaid North Country Cheviot Arwyn Roberts
Bachgen gyda chacen
Tobi, o Benygroes, gafodd y mwyaf o farciau yn adran y plant Arwyn Roberts
Dathlu ennill dafad fuddugol
Alan Wyn Davies, o Morfa Nefyn, pencampwr defaid Cymreig a phencampwr defaid Dwyfor gyda'i fab yng nghyfraith Adam Daniel a'i ŵyr Abner Arwyn Roberts