Sport

12 trobwynt yn hanes pêl-droed merched Cymru

Mae tîm merched Cymru yn Y Swistir ar gyfer yr Euros, eu tro cyntaf erioed yn un o'r prif gystadlaethau rhyngwladol. Mae hyn yn gam enfawr ymlaen o feddwl eu bod wedi eu gwahardd rhag chwarae ar gaeau pêl-droed tan 1970.

Felly wrth i'r tîm gamu ar y cae ar 5 Gorffennaf - dros ganrif ers dechrau'r gwaharddiad - dyma 12 trobwynt yn hanes gêm y merched sy'n dangos bod nifer fawr wedi haeddu medalau dros y degawdau am frwydro i gael cydraddoldeb.

1. Y gwaharddiad - 3 Mawrth 1922

Dros ganrif yn ôl roedd 'na filoedd yn gwylio pêl-droed merched a'r gêm ar ei hanterth. Gyda chymaint o ddynion yn brwydro yn y Rhyfel Byd Cyntaf a newidiadau cymdeithasol ar droed, roedd timau merched wedi eu sefydlu yn y ffatrïoedd lle'r roedden nhw'n gweithio - fel y ffatrïoedd arfau.

Newport Ladies AFC 1921.
Newport Ladies AFC 1921. Kathryn Wilkins, wyres y gôl-geidwad (Dolly Johns, yn y crys gwyn), ddaeth o hyd i'r llun wedi i'w nain farw - doedd ganddi ddim syniad tan hynny ei bod hi'n chwarae pêl-droed Kathryn Wilkins

Roedd torfeydd mawr yn gwylio rhai gemau, sefydlwyd cynghrair yn 1917 a thîm cenedlaethol yn 1921.

Ymateb Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar 3 Mawrth 1922 oedd gwahardd unrhyw gemau merched ar eu caeau. Roedd penderfyniad tebyg wedi ei wneud yn Lloegr rai misoedd ynghynt, ac mae'n debyg mai poblogrwydd gêm y merched, ac o bosib newid agweddau ar ddiwedd y rhyfel, oedd y rheswm.

2. Gemau elusennol - 1922-ymlaen

Er bod y gwaharddiad wedi cael effaith fawr ar ddatblygiad y gêm, wnaeth o ddim ei stopio.

Roedd timau yn gofyn caniatâd i chwarae gemau i godi arian at achosion da, yn cynnwys ar gaeau oedd ddim yn dod o dan awdurdod y Gymdeithas, fel caeau criced a rygbi a pharciau chwarae.

Er enghraifft, fe wnaeth Marcwis Biwt adael i gêm elusennol gael ei chwarae ar Barc yr Arfau ar 22 Mawrth 1922. Daeth 15,000 i wylio tîm enwog Dick, Kerr Ladies o dref Preston yn erbyn Olympic de Paris o Ffrainc.

Kerr Ladies yn chwarae pêl droed
Fe wnaeth tîm enwog Dick, Kerr Ladies (mewn gwyn yn y llun mewn gêm yn erbyn y Ffrancwyr yn Llundain yn 1925) chwarae nifer o gemau elusennol yng Nghymru yn y degawdau wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf Hulton Archive

3. Cryfhau'r gwaharddiad - 1939

Ar drothwy'r Ail Ryfel Byd, cryfhawyd y gwaharddiad gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru - oedd wedi bod yn rhoi caniatâd arbennig i rai gemau elusennol rhwng timau merched.

Mae munudau'r Gymdeithas o 29 Awst 1939 yn ei gwneud hi'n glir na ddylai clybiau, swyddogion, chwaraewyr na dyfarnwyr wneud unrhyw beth gyda gemau rhwng timau merched, o bosib i arbed arian gan fod swyddogion yn hawlio treuliau i fynd i weld rhai o'r gemau merched.

Ddegawdau yn ddiweddarach, pan geisiodd Ken Hughes gael caniatâd y Gymdeithas i gynnal gêm elusennol ar gae pêl-droed y Rhyl yn 1962 derbyniodd lythyr yn gwrthod oherwydd: "We think that football is a man's game and that there is no place for lady players."

4. '1966 and all that'… diddordeb yn cynyddu

Prestatyn Ladies
Prestatyn Ladies - un o dimau mwyaf llwyddiannus gogledd Cymru yn yr 1970au Phil Micheu/NWPA

Gyda Chwpan y Byd yn cael ei chynnal dros y ffin yn 1966, sefydlwyd nifer o dimau merched mewn ffatrïoedd - er enghraifft Johnson Rangers (Port Talbot) a J.R. Freemans (Caerdydd). Sefydlwyd timau annibynnol hefyd - fel Llanrwst Ladies a Prestatyn Ladies, fyddai'n cael llwyddiant mawr dros y blynyddoedd nesaf.

Ar ddiwedd 1969, sefydlwyd y Ladies Football Association of Great Britain (gafodd ei ailenwi yn Women's Football Association) yn Llundain i weinyddu a hyrwyddo'r gêm - er bod diffyg arian a chefnogaeth yn gyffredinol. Roedd aelodau'r gymdeithas yn dod o Loegr, Iwerddon a Chymru.

5. Pwysau gan FIFA ac agweddau'n dechrau newid - 1970

Mis Mawrth 1970, gofynnodd FIFA - gweinyddwyr y gêm yn rhyngwladol - i'w holl aelodau os oedden nhw'n cydnabod pêl-droed merched. Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru eu bod nhw - er fod eu gwaharddiad yn dal i sefyll tan ddiwedd Mai.

Yna gofynnodd gweinyddwyr y gêm yn Ewrop, UEFA, i'w haelodau gydnabod gêm y merched a sicrhau ei fod yn cael ei reoli'n iawn. Roedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn fodlon i'r WFA barhau i wneud hynny yng Nghymru. Ar 29 Mai, 1970, fe gafodd y gwaharddiad rhag chwarae ar gaeau aelodau'r gymdeithas ei godi.

6. Cynghrair Cymru a gemau ryngwladol - 1972/73

Cam ymlaen wrth sefydlu Cynghrair Merched Cymru gyda 10 o dimau, ond i gyd yn y de. Yn y gogledd roedd timau fel y Prestatyn Ladies yn chwarae mewn cynghreiriau dros y ffin.

Ac fe sefydlwyd tîm cenedlaethol gyda'r gyntaf mewn nifer o gemau dros y ddegawd nesaf yn cael ei chwarae ar 13 Mai 1973 - yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn Llanelli. Oherwydd diffyg arian - problem barhaus i gêm y merched - roedd Cymru yn gwisgo crysau wedi eu benthyg gan Abertawe gan mai coch oedd ail liwiau'r Elyrch.

Dechreuodd y gêm gael ei gweinyddu yng Nghymru pan sefydlwyd Wales Women's International Football i wneud gwaith y WFA.

7. Llanedeyrn Ladies… a chwalu Cynghrair Cymru - 1975

Un cam ymlaen, a dau yn ôl…

Sefydlwyd Llanedeyrn Ladies yn 1975 - rhagflaenydd Cardiff City Ladies, tîm sydd wedi meithrin rhai o chwaraewyr gorau Cymru dros y blynyddoedd yn cynnwys Jess Fishlock, Kath Morgan, Gwennan Harries a Loren Dykes.

Llanedeyrn Ladies
Rhwng newid enw o Llandeyrn Ladies i Cardiff City Ladies, Inter Cardiff oedd enw'r tîm yn 1993. Mae'r sgwad yma o'r flwyddyn honno yn cynnwys cyn chwaraewyr Cymru Karen Jones (golgeidwad), Laura McAllister (penwisg coch) a Michelle Adams (nesaf i'r chwith i Laura McAllister). Mae'r dair wedi chwarae rôl bwysig yn natblygiad y gêm - fel y gwelwch yn rhif naw isod Karen Jones

Ond ar ôl tri mis yn chwarae yng Nghymru roedd yn rhaid i Llanedeyrn Ladies chwarae o fewn system Lloegr wrth i Gynghrair Cymru ddod i ben oherwydd diffyg gemau cystadleuol.

8. Sefydlogrwydd… ond dim arian - 1978 a'r 80au

Ar ôl nifer o reolwyr gwahanol dros gyfnod, ym mis Chwefror 1978 fe wnaeth Ida Driscoll, cadeirydd y WWFI, benodi Sylvia Gore.

Byddai cyn-chwaraewr Lloegr, Manchester Corinthians, Foden a Prestatyn Ladies yn rheoli am gyfnodau am y ddegawd nesaf.

Tîm rhyngwladol Cymru 1979
Sylvia Gore (ar y dde, mewn côt ledr) gyda'r tîm rhyngwladol ar 22 Ebrill 1979 mewn gêm yn erbyn Yr Alban yn Dundee Mai Griffith

Roedd arian yn dal yn broblem. Doedd Cymru methu chwarae yn y gystadleuaeth merched gyntaf i UEFA ei threfnu yn 1982/83 oherwydd diffyg arian; fe wnaeth Sylvia Gore fuddsoddi £5,000 o'i harian ei hun yn y gêm ac roedd y chwaraewyr yn aml yn talu i fedru chwarae.

9. Ymuno â'r Gymdeithas - 1992

Gyda thîm y dynion yn llewyrchu o dan Terry Yorath, ac yn agos at gyrraedd Cwpan y Byd, doedd 'na dal ddim diddordeb yng ngêm y merched o fewn Cymdeithas Pêl-droed Cymru

Felly fe ofynnodd y chwaraewyr rhyngwladol Laura McAllister, Michelle Adams a Karen Jones am gyfarfod gydag ysgrifennydd y Gymdeithas, Alun Evans, a lobïo'r Gymdeithas i fod yn gyfrifol am dîm cenedlaethol y merched.

Ar ôl gwylio gêm a thrafod… fe gytunodd, gan ddechrau'r cyfnod modern.

10. Cwpan FA a phencampwriaeth UEFA - 1993

Un o'r pethau cyntaf wnaeth y Gymdeithas oedd dechrau Cwpan FA Merched Cymru gyda'r gêm derfynol yn cael ei chwarae cyn gornest y dynion yn y Stadiwm Genedlaethol fis Mai 1993. Pilkington, Llanelwy (newidiodd i'r Rhyl ar ôl symud yn fuan wedyn) aeth a hi.

Tîm Cymru yn 1993
Dechrau cyfnod newydd - gêm Cymru v Gwlad yr Iâ yn Afon Lido, Port Talbot ar 6 Medi 1993 Su Young

Penodwyd Lyn Jones (o dîm dynion Inter Cardiff) yn rheolwr ar y tîm cenedlaethol i geisio am le ym mhencampwriaeth UEFA y merched. Fel rhan o'u paratoadau, fis Medi 1993 chwaraewyd gêm gyntaf y cyfnod modern ym Mhort Talbot - gêm gyfeillgar yn erbyn Gwlad yr Iâ. Colli wnaeth Cymru 0-1.

Colli eu gemau nesaf i gyd wnaeth Cymru a methu mynd i'r bencampwriaeth. Roedd ffordd bell i fynd, ond roedd yn gam mawr i'r cyfeiriad iawn.

11. Rheolwr cyflogedig llawn amser ac ymgyrch Cwpan y Byd

O'r diwedd, 2010 a phenodi'r rheolwr cyflogedig llawn-amser cyntaf i dîm merched Cymru - Jarmo Matikainen o'r Ffindir, wnaeth gyflwyno syniadau newydd a chodi ffitrwydd eto.

Un o chwaraewyr mwyaf llwyddiannus Cymru, Jayne Ludlow, wnaeth gymryd yr awenau yn 2015, ac roedd hi'n gyfrifol am 53 gêm gan ddod yn agos i gyrraedd Cwpan y Byd 2019 ac Ewro 2021.

Fe wnaeth Gemma Grainger gymryd yr awennau ar gyfer ymgyrch Cwpan y Byd 2023, a boddi wrth ymyl y lan ar ôl mynd â Chymru i rownd derfynol y gemau ail gyfle ar gyfer Cwpan y Byd 2023, cyn colli yn erbyn y Swistir.

Wedi iddi hi adael yn annisgwyl i reoli Norwy fe benodwyd Rhian Wilkinson, sy'n dod o Ganada ond gyda'i gwreiddiau yng Nghymru a dechrau ar yr ymgyrch nesa... Euro 2025.

12. Creu hanes - Euro 2025

Tim merched Cymru yn dathlu
Dathlu cyrraedd Euro 2025 gyda buddugoliaeth yn Nulyn yn 2024 PA Wire

Roedd 3 Rhagfyr 2024 yn ddiwrnod hanesyddol i bêl-droed Cymru wrth i dîm y merched gyrraedd pencampwriaeth fawr am y tro cyntaf yn eu hanes.

Gyda lle yn Euro 2025 yn y fantol, fe lwyddodd Cymru i ddal eu gafael yn arwrol yn y munudau olaf yn Stadiwm Aviva, Dulyn, i guro Gweriniaeth Iwerddon.

Ac roedd yn noson llawn hapusrwydd ac emosiwn wrth i'r Cymry ddathlu llwyddiant y sgwad bresennol a'r holl bobl fu'n brwydro ers degawdau am degwch.

Ac ar 5 Gorffennaf fe fydd tîm Rhian Wilkinson, gafodd eu rhoi yn y grŵp anoddaf gyda'r Iseldiroedd, Ffrainc a Lloegr, yn chwarae eu gêm gyntaf.

Bydd miloedd o Gymry yn eu cefnogi yn y Swistir a nôl adref a'r ffaith bod y tîm wedi cyrraedd y bencampwriaeth yn hwb enfawr i'r gêm fydd yn cael effaith ar genedlaethau o blant a phobl ifanc.

  • Cyhoeddwyd fersiwn o'r erthygl yma yn wreiddiol yn 2022.