Sport

Eryri
Parc Cenedlaethol Eryri

Yr wythnos yma mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar y cyd gyda Prosiect Nos wedi bod yn dathlu harddwch naturiol yr Awyr Dywyll.

Mae sawl safle ar draws Cymru, ac o fewn ffiniau'r tri Pharc Cenedlaethol yn Eryri, Brycheiniog ac Arfordir Penfro ble mae modd gwerthfawrogi'r awyr dywyll heb unrhyw lygredd goleuni.

Mae sawl gweithgaredd wedi'i drefnu yn ystod yr wythnos sy'n annog pobl i fynd allan ac edrych fyny tua'r awyr.

Diolch i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri am roi caniatâd i BBC Cymru Fyw i arddangos yr oriel anhygoel o luniau sy'n cynnwys rhai gan y ffotograffydd Keith O'Brien.

Lleuad Fedi
Lleuad Fedi yn goleuo Cwm Prysor Keith O'Brien
Llwybrau'r Sêr
Llwybrau'r Sêr o Gwm Dolgain Keith O'Brien
Penfro
Mae'r ffermdy hwn wedi ei leoli mewn lle perffaith i werthfawrogi'r awyr dywyll ym Mhenfro Keith O'Brien
Penfro
Ar lan y môr yn Sir Benfro mae modd edrych allan am filltiroedd dros y dŵr Keith O'Brien
Llyn Cregennan
Llyn Cregennan ger Dolgellau gyda Caer Arianrhod ac Actwrws yn Bootes uwch law y dŵr Keith O'Brien
Y blaned Fenws
Y blaned Fenws i'w weld yn glir ger Trawsfynydd Keith O'Brien
Bannau Brycheiniog
Cronfa ddŵr Tal-y-bont o dan y sêr Parc Cenedlaethol Eryri
Bannau Brycheiniog
Yr awyr dywyll uwch ben Pen y Fan ar y Bannau Brycheiniog Parc cenedlaethol Eryri
Goleuni'r Gogledd
Goleuni'r Gogledd dros Drawsfynydd Keith O'Brien
Y Llwybr Llaethog
Y Llwybr Llaethog o Abergeirw, Gwynedd Keith O'Brien