Sport

Wrecsam
Getty Images

Mae Wrecsam wedi colli eu lle yn safleoedd gemau ail gyfle Cynghrair Genedlaethol Lloegr ar ddiwrnod ola'r tymor wedi iddyn nhw gael gêm gyfartal oddi cartref yn Dagenham & Redbridge.

Roedd pum tîm yn cystadlu am y ddau le olaf yn safleoedd y gemau ail gyfle, ond roedd Wrecsam yn gwybod y byddai unhryw fath o fuddugoliaeth yn ddigon i selio eu lle.

Aeth y tîm cartref ar y blaen ar ddechrau'r ail hanner gyda Paul McCallum yn rhwydo o groesiad Ángelo Balanta, ac yn fuan ar ôl hynny fe welodd Paul Rutherford gerdyn coch i Wrecsam am dacl wael ar Matt Robinson.

Er hynny daeth llygedyn o obaith i Wrecsam yn y munud olaf gyda gôl gan Jordan Ponticelli, ond doedd pwynt ddim yn ddigon i'r Cymry.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Wrecsam yn gorffen y tymor yn yr wythfed safle - gan fethu â sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle o un pwynt yn unig.

Chesterfield a Bromley lwyddodd i sicrhau'r ddau safle olaf yn y gemau ail gyfle, gan olygu y bydd Wrecsam yn treulio 14eg tymor yn olynol yn y Gynghrair Genedlaethol.