Roedd 500 o bobl lwcus o fewn muriau Castell Caerdydd ar Ddydd Sadwrn, 15 Mai, i fwynhau Tafwyl, yr ŵyl gelfyddydol Gymraeg boblogaidd yn y brifddinas.
Y llynedd, yn sgil pandemig Covid-19 cafodd Tafwyl ei gynnal ar-lein, ond eleni dewiswyd Tafwyl i fod yn un o ddigwyddiadau prawf Covid Llywodraeth Cymru o dan amodau penodol.
Dyma rywfaint o'r golygfeydd oedd i'w gweld yng Nghastell Caerdydd:
Roedd 17 o artistiaid yn perfformio ar ddau lwyfan, wedi eu curadu gan Clwb Ifor BachffotoNantThallo; y cyntaf i berfformio ar y prif lwyfanorchardmediaY bytholwyrdd Geraint Jarman, prif act y nosonffotonantRoedd croeso i bartïon o 4-6 person fwynhau'r cerddoriaeth fyw a phrofi'r bwyd strydffotonantIfan Pritchard, prif leisydd GwilymffotoNantPapur Wal, a oedd yn perfformio am 13:30orchardmediaY cyflwynwyr; Huw Stephens, Seren Jones a Tara BethanorchardmediaMared yn diddanu'r gynulleidfaorchardmediaDawnswyr Kitsch n Sync yn dod â 'chydig o liw i faes y CastellffotoNantHwn oedd y 15fed tro i Tafwyl gael ei chynnalffotonantElidyr Glyn a Robin Llwyd o'r band BwncathorchardmediaYn ogystal â chynulleidfa fyw, roedd cynulleidfa yn gwylio ar blatfform digidol AM - o'r Ariannin, Yr Eidal, Ffrainc, Yr Almaen a Chanada i enwi ond rhai gwledydd - gyda niferoedd y gwylwyr ar-lein eleni'n uwch na llyneddffotonantY gantores Ani Glass yn perfformio gyda gitâr fasffotoNantBand sy'n lleol i Gaerdydd; Breichiau HirorchardmediaY gynulleidfa yn gwerthfawrogi yr adloniant oedd yn cael ei gynnig yn rhad ac am ddimffotoNantDigon i'w drafod ar y ffordd adref wedi gwledd o gerddoriaeth a diwylliant yn y CastellffotoNant