Sport

Ffrainc
Llwyddodd cais Brice Dulin yn yr eiliadau olaf i gipio'r fuddugoliaeth o grafangau'r Cymry Getty Images

Roedd torcalon i Gymru yn y Stade de France nos Sadwrn wrth i Ffrainc eu trechu mewn gêm anhygoel a chwalu'r freuddwyd o gyflawni Camp Lawn arall.

Llwyddodd y Ffrancwyr sgorio cais yn yr eiliadau olaf er mwyn cipio'r fuddugoliaeth o 32-30.

Bydd tynged y bencampwriaeth felly yn dibynnu ar ganlyniad yr unig gêm sydd eto i'w chwarae.

Cafodd y gêm rhwng y Ffrancwyr a'r Alban yn gynharach yn y bencampwriaeth ei gohirio ar ôl i nifer o chwaraewyr gael profion positif am Covid-19.

Mae'r gêm honno wedi cael ei haildrefnu ar gyfer nos Wener, 26 Mawrth.

Er mwyn atal Cymru rhag ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad bydd yn rhaid i Ffrainc drechu'r Alban gyda phwynt bonws, a'u trechu o dros 21 pwynt.

Dan Biggar
Dan Biggar sgoriodd gais cynta'r Cymry ym Mharis wedi ychydig dros 10 munud Getty Images

Yn dilyn dechrau gwych i'r Ffrancwyr daeth cais iddynt o fewn chwe munud, gyda Romain Taofifenua yn croesi'r gwyngalch a Matthieu Jalibert yn ei throsi.

Roedd Cymru'n credu eu bod wedi taro 'nôl yn syth trwy Gareth Davies ond fe benderfynodd y dyfarnwr, gyda help y dyfarnwr fideo, bod Charles Ollivon wedi llwyddo i'w atal rhag tirio.

Ond funudau'n ddiweddarach roedd Cymru'n gyfartal, wrth i Dan Biggar drosi ei gais ei hun wedi 12 munud.

Daeth ail gais i'r Ffrancwyr yn syth wedi hynny, wrth i'r mewnwr Antoine Dupont groesi ger y pyst yn dilyn cic grefftus dros yr amddiffyn gan Brice Dulin.

Wedi dim ond 18 munud daeth pedwerydd cais y gêm, gyda'r blaenasgellwr Josh Navidi yn sgorio i Gymru i'w gwneud yn gyfartal 14-14.

Aeth Cymru ar y blaen am y tro cyntaf gyda gôl gosb gan Biggar cyn i Romain Ntamack - ddaeth ymlaen wedi i Jalibert ddioddef anaf i'w ben - ymateb i'w gwneud yn gyfartal 17-17 ar hanner amser.

Antoine Dupont
Sgoriodd Antoine Dupont drydydd cais y gêm wedi dim ond 15 munud o chwarae Getty Images

Cymru ddechreuodd yr ail hanner orau wrth i gôl gosb arall gan Biggar eu rhoi ar y blaen eto, cyn i Josh Adams gael cais yn dilyn cyfnod hir o asesu gan y dyfarnwr fideo.

Wedi i gôl gosb gan Ntamack leihau mantais Cymru i saith pwynt, roedd hi'n ymddangos bod Louis Rees-Zammit wedi sgorio cais gwych yn y gornel, ond roedd y tîm dyfarnu o'r farn ei fod wedi gadael tir y chwarae.

Yn hytrach, fe welodd y prop Mohamed Haouas gerdyn melyn ac ychwanegodd Biggar gôl gosb arall i adfer mantais 10 pwynt y Cymry.

Gydag ychydig dros 10 munud yn weddill roedd Dulin yn credu ei fod wedi sgorio cais i Ffrainc, cyn i'r dyfarnwyr benderfynu bod Paul Willemse wedi troseddu ychydig gymalau cyn hynny.

Fe gafodd chwaraewr ail reng y Ffrancwyr gerdyn coch am y drosedd honno, sef rhoi ei fysedd yn llygaid Wyn Jones.

Paul Willemse
Cafodd Paul Willemse gerdyn coch gan Luke Pearce am roi ei fysedd yn llygaid Wyn Jones Getty Images

Aeth Cymru i lawr i 14 dyn ychydig funudau'n ddiweddarach, gyda Taulupe Faletau yn gorfod gadael y maes ar ôl cael cerdyn melyn, cyn i Liam Williams hefyd weld yr un cerdyn eiliadau'n unig wedi hynny.

Llwyddodd Ollivon i gymryd mantais o'r faith fod gan y Ffrancwyr ddyn ychwanegol gan groesi am gais, ac fe wnaeth Ntamack ei throsi i leihau mantais Cymru i dri phwynt gyda munudau'n unig yn weddill.

Wedi i'r cloc fynd heibio i'r 80 munud, fe wnaeth Dulin sgorio yn y gornel er mwyn cipio'r fuddugoliaeth, a chadw'r bencampwriaeth yn fyw.