Sport

Fe fydd Rachel Taylor a Warren Abrahams yng ngofal y tîm ar gyfer Cwpan y Byd 2021
Fe fydd Rachel Taylor a Warren Abrahams yng ngofal y tîm ar gyfer Cwpan y Byd 2021 Huw Evans picture agency

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi penodi Warren Abrahams, cyn ddirprwy tîm saith bob ochr yr UDA, fel prif hyfforddwr Tîm Merched Cymru.

Rachel Taylor, cyn-gapten Cymru, sydd wedi ei phenodi fel hyfforddwr sgiliau'r tîm.

Abrahams yw hyfforddwr du cenedlaethol cyntaf Undeb Rygbi Cymru, a Taylor yw'r hyfforddwr proffesiynol benywaidd cyntaf.

"Mae hwn yn adeg gyffrous i fod yn rhan o raglen Cymru," meddai Abrahams.

Fe fydd y ddau yn cychwyn ar eu gwaith yn syth wrth i'r paratoadau fynd rhagddynt ar gyfer cystadleuaeth Cwpan y Byd yn Seland Newydd y flwyddyn nesaf.

"Mae gennym gyfle i wneud rhywbeth go arbennig yn y 12 mis nesaf a thu hwnt," meddai Abrahams.

Bydd Abrahams a Taylor yng ngofal tîm wnaeth fethu a churo gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Mae'r garfan wedi bod yng ngofal dros dro Chris Horsman a Darren Edwards ers i Rowland Phillips adael fel prif hyfforddwr.