Wrth i'r Brifysgol groesawu myfyrwyr yn ôl i'r adeilad eiconig wedi gwaith adnewyddu, dyma olwg ar sut mae'r neuadd wedi newid dros y blynyddoedd, o'r dyddiau cynnar pan mai bechgyn yn unig oedd yn byw yno, hyd heddiw gyda cheginau modern ac ystafelloedd gwely mwy moethus.
Yr adeg yna roedd llyfrgell ar gyfer y myfyrwyr yn yr adeilad.Prifysgol AberystwythMae cyfleusterau cymunedol y neuadd, fel y ffreutur, yn cael eu hystyried yn fannau pwysig i fyfyrwyr gymdeithasu.Prifysgol AberystwythDaeth Pantycelyn yn neuadd breswyl cyfrwng Cymraeg yn 1974.Prifysgol AberystwythBu Dr John Davies, hanesydd ac awdur y gyfrol Hanes Cymru, yn warden y neuadd am 18 mlynedd.Prifysgol AberystwythErs ei sefydlu, bu Pantycelyn yn gartref i dros 3,500 o fyfyrwyr.Prifysgol AberystwythYn Hydref 2013 bu protestiadau am gynlluniau Prifysgol Aberystwyth i gau Neuadd Pantycelyn a symud y myfyrwyr i fflatiau newydd.Prifysgol Aberystwyth
Mae gan Neuadd Pantycelyn fynedfa newydd ar ochr ddwyreiniol yr adeilad, wrth i'r adeilad groesawu myfyrwyr unwaith eto ym Medi 2020Prifysgol Aberystwyth
Mi fydd rhaglen am Neuadd Pantycelyn yn olrhain hanes, llwyddiannau a misdimanyrs yr adeilad eiconig ar BBC Radio Cymru, ddydd Sul Medi 20 am 14:00
Mae'r Lolfa Fawr wedi bod yn fan i'r myfyrwyr gymdeithasu dros y blynyddoeddPrifysgol AberystwythGolwg ar un o'r ystafelloedd gwely moethus. Bellach mae ystafell ymolchi integredig yno hefydMae ceginau newydd modern wedi eu gosod yn y neuaddPrifysgol Aberystwyth