Sport

Yn ystod yr wythnos hon fel arfer, fe fyddai'r Sioe Frenhinol yn cael ei chynnal, a miloedd o amaethwyr yn tyrru i Lanelwedd i fwynhau'r cystadlu a'r cymdeithasu.

Gan fod y Sioe, fel pob digwyddiad tebyg, wedi ei gohirio oherwydd coronafeirws, mae Shân Cothi yn cynnal Wythnos Sioe Fawr Shân ar BBC Radio Cymru.

Ac mae gwrandawyr y rhaglen wedi bod yn anfon eu lluniau amrywiol o wahanol gategorïau o sioeau'r gorffennol aton ni - o'r moch i'r defaid, y ceffylau i'r courgettes. Dyma ddetholiad o'r lluniau:

Gwenllian Evans sy'n 12 oed a'i hwrdd Jacob blwydd oed, Gwenerin Arwel
Llun cyfrannwr

Mae Gwenllian Evans sy'n 12 oed o Drefenter yn cystadlu gyda'i defaid Jacob ers pedair blynedd. Dyma Gwenllian gyda'i hwrdd blwydd oed, Gwenerin Arwel.

Mr a Mrs Huw Williams a Chwpan y Frenhines, gyda'u hwrdd yn y Sioe Frenhinol yn 2019
Llun cyfrannwr

Cwpan y Frenhines yn dod adre i Mr a Mrs Huw Williams, Glynglas, Porthyrhyd, Llanwrda. Yn 2018 enillodd y teulu gyda hwrdd blwydd y bencampwriaeth yn y categori Defaid Mynydd Cymreig Balwen, gan ail fyw y profiad yn 2019 gyda'r un hwrdd.

Dafad Blue faced Tom ac Idwal Jones, Aberhonddu yn y Sioe Frenhinol
Llun cyfrannwr

Dafad Bluefaced Leicester Tom ac Idwal Jones, Aberhonddu yn y Sioe Frenhinol.

Enlli Pugh
Llun cyfrannwr

Enlli Pugh ar ei cheffyl.

Mrs C E Owen anfonodd y llun, o Sioe Frenhinol 2016
Llun cyfrannwr

Mrs C E Owen anfonodd y llun yma, o Sioe Frenhinol 2016.

Gwyn a Shân ag un o geffylau hardd Tîm Gyrru Tristar 2019
Llun cyfrannwr

Gwyn a Shân ag un o geffylau hardd Tîm Gyrru Tristar 2019.

Friars Diamond Wedding. Pencampwr y Merlod Mynydd Ifanc o dan 3oed
Llun cyfrannwr

Friars, Diamond Wedding. Pencampwr y Merlod Mynydd Ifanc o dan 3 oed.

Friars Still my Sunshine. Pencampwr Merlod Mynydd Cymreig 2013
Llun cyfrannwr

Friars, Still My Sunshine. Pencampwr Merlod Mynydd Cymreig 2013.

Cynnyrch Catherine Evans o Sefydliad y Merched, Tregaron
Llun cyfrannwr

Cynnyrch Catherine Evans o Sefydliad y Merched, Tregaron.

Clustog gan Sandra Russell o Sefydliad y Merched, Llanddewi Brefi
Llun cyfrannwr

Clustog gan Sandra Russell o Sefydliad y Merched, Llanddewi Brefi.

Defaid Eirwyn Richards, Cwmcelynen, Ffarmers - Pencampwyr Gwobr Teulu Lloyd
Llun cyfrannwr

Defaid Eirwyn Richards, Cwmcelynen, Ffarmers - Pencampwyr Gwobr Teulu Lloyd.

Defaid Jacob Teulu Harries, Hope Farm, Taliaris
Llun cyfrannwr

Defaid Jacob Teulu Harries, Hope Farm, Taliaris.

Idwal Jones a'i fab Tommy Jones Aberhonddu, gyda'u defaid Cymreig
Llun cyfrannwr

Idwal Jones a'i fab Tommy Jones Aberhonddu, gyda'u defaid Cymreig.

Tori Thomas a Penstrumbly Our Latif, yn y Sioe Frenhinol, 2019
Llun cyfrannwr

Tori Thomas a'r ceffyl Penstrumbly Our Latif, yn y Sioe Frenhinol, 2019.

Y diweddar Lilian Evans, teulu Moch Teifi, Aberteifi yn y Sioe Frenhinol
Llun cyfrannwr

Y diweddar Lilian Evans, teulu Moch Teifi, Aberteifi yn y Sioe Frenhinol.

Mochyn Troedyraer, Aberteifi
Llun cyfrannwr

Mochyn Teifi, Fferm Troedyraer, Aberteifi yn cystadlu yng nghylch y Moch.

Rose ar ei phen-blwydd yn 81, a'r ceffyl Conan
Llun cyfrannwr

Rose ar ei cheffyl, Conan.

Charolais ifanc ar ffarm Rhiwlwyd, Dôlgrân Pencader. Jason a Nerys Thinas.
Aled Hall

Charolais ifanc ar ffarm Rhiwlwyd, Dôlgrân, Pencader. Jason a Nerys Thinas yw'r ffermwyr.

Llun cyfrannwr
Llun cyfrannwr

Cardigan a siwmper gan Lavinia Cohn Sherbok o Sefydliad y Merched, Bwlchllan.

Soffia Cynwyl, 14 mlwydd oed o Aberteifi
Llun cyfrannwr

Soffia Cynwyl, 14 mlwydd oed o Aberteifi ar ei cheffyl.

Shân Cothi a'i cheffyl Caio
Llun cyfrannwr

Shân Cothi a'i cheffyl Caio yn ennill pencampwr Adran y Veterans yn sioe Wanwyn Celaeron - yn 23 oed bryd hynny, yn 25 nawr!

Hefyd o ddiddordeb: