Sport

Tra mae'r byd wedi bod yn delio gyda feirws Covid-19 mae byd natur wedi ffynnu ac wedi bod yn gysur i nifer. Un o'r pethau mae'r cyfnod wedi ei ddangos yw ei bod yn werth cymryd amser weithiau i sylwi ar beth sydd wrth ein traed ac o'n cwmpas.

Mae gwrandawyr rhaglen Galwad Cynnar ar Radio Cymru wedi bod yn tynnu lluniau o ryfeddodau byd natur ers sawl blwyddyn. Dyma ddetholiad i'ch ysbrydoli:

Tylluan wen mewn coeden
Wrth fynd allan i dynnu llun y sêr yn y nos yn ardal Trawsfynydd cafodd Keith O'Brien gwmni'r dylluan wen hon sy'n edrych fel darlun o chwedl Blodeuwedd! Keith O'Brien
sgwarnog
Llun arall gan Keith O'Brien o sgwarnog, creadur arall sy'n cael ei gysylltu ag ambell chwedl dsasda
Llygoden
Llygoden fach yn mentro i nôl bwyd rhwng y potiau blodau Cetra Coverdale Pearson
Malwen
Mae'r patrwm troellog ar gragen malwen yn un o'r myrdd o batrymau mathemategol natur Irfon Jones
Cnocell y Coed
Daliodd Gareth Roberts y llun trawiadol yma o gnocell y coed yn hedfan yn ei ardd yn Bont Newydd ger Dolgellau Gareth Roberts
Gwas y Neidr yn mynd drwy metamorffasis
Adenydd newydd sbon gan was y neidr sy'n mynd drwy metamorffasis Marc Berw
Robin Goch yn canu
Robin goch yn canu nerth esgyrn ei ben, wedi ei dynnu gan Elan Edwards Clarke sy'n 13 mlwydd oed Elan Edwards Clarke
Sgwarnog gwyn
Sgwarnog arall ond un anghyffredin, gwyn, y tro yma. Wedi ei gweld ger Tudweiliog ym Mhen Llŷn Gareth Jones
Titw Tomos Las
Titw Tomos las yn gwneud ei nyth yn gysurus Gerallt Pennant
Tair alarch
Elyrch y gogledd yw'r rhain, rhywogaeth brin a welwyd yn ardal Llanfachreth ger Ddolgellau Keith O'Brien
Madarchen cap inc
Madarchen cap inc neu do ar gyfer un o dai'r Tylwyth Teg? Keith OBrien
Rhith Brocen
Rhith neu Fwgan Brocen yw enw'r ffenomenon yma a welodd Gerallt Pennant ar Foel Hebog, sef tafluniad enfawr o'ch cysgod eich hun yn y cymylau Gerallt Pennant
bwydo adar
Aderyn y to yn bwydo ei chyw dsdsa
blodyn glas
Lliw hardd a siapiau symetrig - mae'n werth cymryd yr amser i edrych yn fanylach weithiau Sion Jones
Moch coed
Moch coed yn glwstwr ar goeden binwydd
Gloyn byw ar flodyn piws
Glöyn byw yn gwledda ar flodau'r bwdlea, neu'r gynffon las Sion Jones
Môr-wenoliaid
Haid o fôr-wenoliaid sy'n dod nôl i nythu mewn rhannau o arfordir Cymru yn yr haf - un o'r llefydd gorau i'w gweld yw Gwarchodfa Natur Cemlyn, Ynys Môn Ben Stammers
sglefren fôr
Ymwelydd haf arall â'n glannau, y slefren gwmpawd sydd â brathiad cas os ewch yn rhy agos
Pry cop wedi dal gwybedyn
Gwybedyn druan wedi ei ddal mewn gwe pry cop Sion Jones
madfall
Madfall yn manteisio ar ei chuddliw ar faneg arddio yn Waunfawr, Gwynedd Debbie a Robyn
Jac do gwyn
Aderyn du gwyn Gwynedd Roberts
Dant y Llew
Llun agos arall sy'n dangos symetri a phatrymau cain byd natur - blodyn dant y llew yn barod i wasgaru ei hadau Irfon Williams
Blodau melyn y Tresi Aur
Tresi aur trawiadol Gerddi Bodnant sydd wedi denu ymwelwyr o dros y byd Tudur Aled Davies
Codiad haul
Anadlwch yn ddwfn ac ewch allan i'r awyr iach - y wawr yn torri dros gae o ŷd Tudur Aled Davies

Mwy: Holl orielau Galwad Cynnar

Hefyd o ddiddordeb: