Sport

Parc Biwt
Roedd cannoedd o bobl yn protestio ym Mharc Biwt, Caerdydd ddydd Sadwrn Wales News Service

Mae pobl yng Nghymru wedi ymuno ag ymgyrchwyr ar draws y byd wrth gynnal protestiadau yn erbyn hiliaeth yn sgil marwolaeth George Floyd yn yr Unol Daleithiau.

Fe gasglodd pobl yng Nghaerdydd, Bangor, Caerffili, Abertawe a Dinbych ddydd Sadwrn fel rhan o ymgyrch Black Lives Matter.

Mae'r heddlu'n dweud bod y protestiadau yn "anghyfreithlon" o dan gyfreithiau cyfyngiadau coronafeirws.

Y cyngor swyddogol yw i osgoi casglu mewn grwpiau, gyda'r Ysgrifennydd Cartref Priti Patel yn dweud ei fod "er ein budd ni oll."

Fe ddechreuodd y protestiadau yn dilyn marwolaeth George Floyd, 46, wrth iddo gael ei arestio ym Minneapolis ar 25 Mai.

Parc Biwt
Y cyngor swyddogol gan y llywodraeth yw i beidio casglu mewn grwpiau Getty Images

Roedd fideo o'r digwyddiad yn ei ddangos yn dweud nad oedd yn gallu anadlu wrth i swyddog heddlu benlinio ar ei wddf ar ôl iddo gael ei arestio gan bedwar plismon.

Mae'r pedwar heddwas bellach wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â'r farwolaeth, sydd wedi sbarduno dyddiau o brotestiadau yn yr Unol Daleithiau a thros y byd.

George Floyd
Mae heddwas wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth yn achos marwolaeth George Floyd Twitter/Ruth Richardson

Mae miloedd wedi casglu yn Llundain a Manceinion, tra bo cannoedd wedi mynychu protestiadau ym Mharc Biwt, Castell Caerffili ac ar stryd fawr Bangor.

Mae nifer o'r protestwyr yn gwisgo mygydau a menig er mwyn ceisio atal lledaeniad coronafeirws.

Diddymu gwaharddiad yn Sydney

Yn Sydney, cafodd gwaharddiad yn erbyn protest y mudiad Black Lives Matter ei ddiddymu ar y funud olaf.

Daeth degau o filoedd o bobl at ei gilydd led led Awstralia i gefnogi'r mudiad, serch rhybuddion swyddogion am dorri cyfreithiau yn ymwneud a coronafeirws.

Mae rhai o'r trefnwyr wedi cael eu dirwyo am dorri rheolau iechyd.