Sport

Llifogydd yn Llanrwst
Mae yna lifogydd yng nghanol Llanrwst yn dilyn oriau o law trwm

Mae gwyntoedd cryfion a glaw trwm yn achosi trafferthion mewn sawl ardal wrth i storm Ciara daro Cymru.

Mae'r tywydd wedi achosi llifogydd yn ardal Llanrwst, ble gafodd dynes ei hachub o'i campervan, ac mae sawl eiddo wedi cael eu gwagio yn Llanelwy yn sgil pryder ynghylch lefel Afon Elwy.

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi trefnu canolfan argyfwng ar gyfer trigolion sy'n cael eu heffeithio gan y sefyllfa yn Llanelwy.

Mae rhybudd oren am wynt mewn grym ar draws Cymru tan 21:00 nos Sul, a bydd yn newid i rybudd melyn wedi hynny tan 23:59.

Roedd yna rybudd melyn am law trwm hefyd mewn rhannau helaeth o'r wlad ond daeth hwnnw i ben am 18:00.

Llifogydd yn Llanrwst 9 Chwefror 2020
Yr olygfa ddydd Sul ar bwys yr afon yng nghanol Llanrwst

Dywedodd Bob Nellist, rheolwr gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, eu bod yn helpu "nifer o drigolion" yn ardal Llanrwst wedi i lifogydd effeithio ar ffyrdd a nifer o dai yno.

Roedd y criw a achubodd y ddynes o'i campervan, meddai, "yn dweud bod y dwr at eu canol".

Ychwanegodd eu bod wedi derbyn "nifer fawr o alwadau ar draws gogledd Cymru".

Mae Ysgol Dyffyn Conwy, Llanrwst wedi cadarnau ar eu cyfrif Twitter y bydd ar gau i ddisgyblion ddydd Llun "yn dilyn storm Ciara a llifogydd trwm ar y safle".

Afon Elwy, Llanelwy brynhawn Sul
Mae pryder yn ardal Llanelwy wedi i lefel Afon Elwy godi yn ystod y dydd

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi gwagio parc carafanau Spring Gardens a thai yn Llys y Felin, yn Llanelwy wrth i lefel Afon Elwy godi.

Ychwanegodd y llu ar bod Cyngor Sir Ddinbych wedi sefydlu canolfan argyfwng yn y ganolfan hamdden leol a bod yr holl asiantaethau yn cadw golwg ar y sefyllfa.

Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi rhybudd llifogydd difrifol yn rhannau o'r ddinas, ond mae'r rhybudd llifogydd ↗ bellach wedi cael ei israddio.

Amodau peryglus

Cafodd sawl rhybudd arall eu cyhoeddi ↗ yn ystod y dydd - rhai mewn mannau ar hyd arfordir y canolbarth a de orllewin Cymru, ble roedd disgwyl gwyntoedd rhwng 70 a 80 mya.

Ond cafodd yr hyrddiad mwyaf trwy Brydain - 93 mya - ei gofnodi yn Aberdaron, yng Ngwynedd, ddydd Sul.

Dros nos cafodd hyrddiad o 86 mya ei gofnodi yng Nghapel Curig yn Eryri.

Rhybuddiodd Cyfoeth Naturiol Cymru bod "amodau yn beryglus eithriadol" a bod angen i'r cyhoedd "gadw'n glir o'r arfordir ac o lannau afonydd".

Mae'r tywydd wedi amharu ar gyflenwadau trydan mewn mannau.

Erbyn dechrau'r prynhawn roedd 4,542 gwsmeriaid Western Power Distribution heb drydan - yn yr ardaloedd rhwng Sanclêr yn Sir Gâr a Thyndyrn yn Sir Fynwy, a rhwng Porthcawl yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr a Llanfair-ym-Muallt ym Mhowys.

Roedd y nifer hwnnw wedi gostwng i 2,856 erbyn diwedd y prynhawn.

Roedd 57 eiddo ar draws y gogledd heb drydan am 11:15 yn ôl gwefan Scottish Power.

Difrod i do hen safle Coleg Llandrillo yn Ninbych wedi Storm Ciara
Difrod i do hen safle Coleg Llandrillo yn Ninbych wedi gwyntoedd cryfion yr oriau diwethaf

Cafodd nifer o wasanaethau trên Trafnidiaeth Cymru ddydd Sul eu canslo neu eu haddasu, a'r cyngor i deithwyr yw i chwilio am y manylion diweddaraf ↗ cyn dechrau ar eu siwrne.

Mae rheolwyr yn rhybuddio y bydd ambell reilffordd yn dal ar gau ben bore Llun tra bo gwaith yn mynd rhagddo i asesu ac atgyweirio unrhyw ddifrod yn sgil llifogydd.

Bydd yna wasanaeth bws ar lein Dyffryn Conwy rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog, ac ar Lein Cambria rhwng Aberystwyth a'r Amwythig a rhwng Machynlleth a Phwllheli.

Llifogydd ar ran o Lein Cambria
Rhan o Lein Cambria sydd wedi bod dan ddŵr wedi'r storm ddydd Sul Network Rail

Bu'n rhaid canslo rhai gwasanaethau fferi Stena Line ↗ ac Irish Ferries ↗, oedd â goblygiadau i gefnogwyr rygbi sy'n teithio'n ôl o Ddulyn wedi gêm Cymru yn erbyn Iwerddon ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn.

Cafodd rhai hediadau o faes awyr Dulyn i Gaerdydd ↗ brynhawn Sul eu canslo.

coeden
Gweithiwr yn delio â choeden a syrthiodd ar yr A496 rhwng Maentwrog a Blaenau Ffestiniog

Trafferthion i yrwyr

Mae Heddlu Gogledd Cymru'n annog y cyhoedd i deithio "gyda gofal a dim ond os oes gwir angen".

Roedd Pont Britannia rhwng Ynys Môn a Gwynedd ar gau i bob cerbyd, ond mae bellach wedi ailagor i geir. Bu'n rhaid cau Pont Cleddau yn Sir Benfro hefyd i gerbydau uchel.

Roedd yna hefyd gyfyngiadau ar yr M48 Pont Hafren, a bu'n rhaid cau Pont Llansawel yng Nghastell nedd Port Talbot, gyda threfniadau i ddargyfeirio cerbydau.

Llifogydd yn Llynpenmaen ger Dolgellau
Llifogydd ar safle Gwesty George III Llynpenmaen ger Dolgellau

Mae'r tywydd hefyd wedi arwain ar orfod cau nifer o ffyrdd eraill, gan gynnwys yr A470 i'r ddau gyfeiriad yn Llanrwst a Phont Dyfi ger Machynlleth.

Roedd yr A5 ar gau ger Llyn Ogwen, Bethesda am rai oriau oherwydd tirlithriad ond mae bellach wedi ailagor, a bydd Pont Sir Y Fflint yn ailagor am 20:00, yn ôl Cyngor Sir Y Fflint.

Dywedodd cwmni bysiau Lloyd bod dim dewis ond canso'i wasanaethau yn y canolbarth a Gwynedd gan effeithio ar deithiau rhwng Tywyn a Machynlleth, Aberystwyth a Bangor, a rhwng Wrecsam a'r Bermo.

Coeden wedi syrthio ar draws Heol Alexandra yn Abertawe
Fe syrthiodd goeden yma ar draws Hedol Alexhandra yn Abertawe Heddlu De Cymru

Bydd Ysgol y Creuddyn, ym Mae Penrhyn, ar gau ddydd Llun "o ganlyniad i'r difrod yma a'r risg sylweddol y bydd mwy o lechi yn disgyn", gyda'r bwriad o "ail-asesu'r sefyllfa yn y bore".

Cafodd difrod ei achosi i do hen safle Coleg Llandrillo yng nghanol Dinbych.

Roedd yna rybudd hefyd gan yr heddlu i'r cyhoedd osgoi parc manwerthu Mostyn Champneys yn Llandudno, am fod yr ardal yn beryglus wedi i'r gwynt chwythu arwyddion rhai o'r siopau i lawr.

Coedan Treuddyn
Mae'r A5104 yn Nhreuddyn, ger Yr Wyddgrug bellach wedi ailagor wedi i goeden oedd wedi disgyn gael ei symud Carolyn Thomas