Sport

Cynhaliwyd Marathon Eryri ddydd Sadwrn, 26 Hydref, lle roedd bron i 2,500 o redwyr yn cymryd rhan yn y ras a oedd yn cychwyn wrth droed Yr Wyddfa yn Llanberis. Dyma ddetholiad o luniau gan y ffotograffydd Gwynfor James o'r diwrnod:

Llinell gychwyn
Yn barod i gychwyn y ras, er gwaetha'r tywydd gwlyb - criw Cronfa Elen a oedd yn rasio fel tîm cyfnewid er budd elusen Rhys Meirion sydd yn codi ymwybyddiaeth ac arian tuag at roi organau SPORTPICTURESCYMRU
Gwirfoddolwyr
Criw cofrestru Marathon Eryri. Mae nifer o bobl leol yn gwirfoddoli ar y diwrnod SPORTPICTURESCYMRU
Rhedeg
Mae Marathon Eryri yn ras heriol, ond mae'r golygfeydd yn drawiadol iawn. Dyma Callum Rawlinson a dyn lleol, Tom Roberts yn cyrraedd Pen-y-Pas SportpicturesCymru
Cefnogwr ifanc
Pawen Lawen gan gefnogwr ifanc! SportpicturesCymru
Marathon Eryri
Enillydd y ras llynedd, Anna Bracegirdle, yn cyrraedd ar y blaen yn Pen-y-Pas SPORTPICTURESCYMRU
Neidio
Er gwaetha'r tirwedd heriol, mae hwyl i'w gael wrth redeg y marathon SPORTPICTURESCYMRU
Enillydd
Callum Rowlinson o Sale ger Manceinion ddaeth yn gyntaf SportpicturesCymru
Enillydd
Andrea Rowlands oedd enillydd ras y merched SportpicturesCymru
Cyrraedd y llinell derfyn
Rhedwyr balch yn cyrraedd y llinell derfyn. Mae'r ras yn cychwyn wrth droed Yr Wyddfa, yna'n arwain rhedwyr i fyny Pen-y-Pas tuag at Feddgelert, ymlaen at Waunfawr cyn troi'n ôl i orffen yn Llanberis SportpicturesCymru
Rhedwraig
Rhedwr hapus yn chwifio baner Cymru SportpicturesCymru
Cyrraedd y diwedd
Mae nifer o'r rhai sy'n cymryd rhan yn rhedeg i godi arian at wahanol elusennau SportpicturesCymru
Cyrraedd y diwedd
Gyda'i gilydd hyd y diwedd SportpicturesCymru
Codi'r darian
Llongyfarchiadau i Andrea Rowlands a Callum Rowlinson, ac i bawb wnaeth gymryd rhan SPORTPICTURESCYMRU

Hefyd o ddiddordeb: