Rhai o'r golygfeydd ar y Maes ar ail ddiwrnod Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd.
Hei Mistar Urdd! Disgyblion Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd wedi dod i'r maes yn eu coch, gwyn a gwyrddY DJ adnabyddus Huw Stephens oedd Llywydd y DyddDwylo i fyny! Hwyl gyda swigod ar y maesRownd a rownd: Elsa o Ruthun yn mwynhau'r ffairAelodau grŵp dawnsio amlgyfrwng Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn paratoi i fynd ar lwyfan y PafiliwnY perfformio a'r prysurdeb ger Llwyfan y Lanfa yng Nghanolfan y MileniwmChloe, Eleri a Willow o Aberdâr yn dal tlws y Chwe GwladLaveah, 3 oed, o Gaerdydd yn mwynhau'r bwyd sydd ar gael ar y maes... a digon o sôs cochBwyd Indiaidd, pizza, crempog, byrger... mae digonedd o ddewis o fwyd ar y maes (a digonedd o gwsmeriaid am eu blasu!)Gwern o Machynlleth yn bownsio fryMr Phormula yn rhoi sesiwn 'beatboxio' ar y llwyfan lliwgar, gyda Phenarth i'w weld yn y cefndirJames a'i chwaer fach, Lily, o Landaf yn mwynhau hufen iâ yng nghwmni Mam-gu a Tad-cuRoedd yna dipyn o dorf yn y Pafiliwn ar gyfer prif seremoni y dydd, Medal y DysgwyrRoedd hi'n gynnes ac yn braf ar y Maes erbyn diwedd y prynhawn - tywydd sbectol haul go iawn!