Sport

Nos Fawrth 28 Mai, bydd disgyblion o 19 ysgol gynradd o ardal Caerdydd a'r Fro yn dod ynghyd i berfformio'r sioe arbennig Troi Heddiw'n Ddoe.

Mae'r sioe wreiddiol, gan Anwen Carlisle a Dyfan Jones, yn adrodd stori Deio a Sara, sy'n dod i ddociau Caerdydd i weithio, a'r holl ddatblygiadau a fu i'r ardal, ddechrau'r ganrif ddiwethaf.

Dyma benllanw misoedd o ymarfer. Aeth y ffotograffydd, Sioned Birchall, draw i Ganolfan y Mileniwm i gael cip ar y paratoadau munud olaf.

dawnsio
Mae digon o gyfle i ganu, actio a dawnsio (a chael hwyl!) yn y sioe yma Sioned Birchall
ffrindiau
Mae'r sioe wedi bod yn gyfle i wneud ffrindiau newydd o ysgolion gwahanol Sioned Birchall
Hamadrayad
Yn y sioe, daw Sara i weithio fel nyrs yn Ysbyty Hamadryad - sydd wedi rhoi ei enw i ysgol gynradd Gymraeg ieuengaf Caerdydd, Ysgol Hamadryad Sioned Birchall
Ffredi
Ffredi sy'n actio Deio, sydd wedi dod i ddociau Caerdydd i weithio ar y llongau Sioned Birchall
edrych
Beth sydd wedi digwydd fan'na? Sioned Birchall
dawnsio
Pawb 'da'i gilydd, nawr... Sioned Birchall
hetiau
Oes gen ti ddigon o hetiau?! Sioned Birchall
Donald Gordon
Cyfle bythgofiadwy i gael perfformio o flaen cynulleidfa enfawr yn Theatr Donald Gordon Sioned Birchall
Seren ac Asia
Seren ac Asia gyda'u props hanfodol Sioned Birchall
Elan Isaac
Elan Isaac, brodor o'r ardal, yw coreograffydd y sioe Sioned Birchall
Pawb yn joio!
Pawb dal i fwynhau, er yr holl waith caled Sioned Birchall
Ifan, Owen a Twm
Mae gan Ifan, Owen a Twm job bwysig Sioned Birchall
Aled Williams
Diolch byth fod Mr Aled Williams o Ysgol y Wern wrth law i roi trefn ar y plant (ac i gasglu'r sbwriel) Sioned Birchall
Gwen
Gwen yn y golau Sioned Birchall
Gruff a Hannah
Gruff a Hannah yn ymarfer eu llinellau Sioned Birchall
gwenu
Pob lwc i bawb! Sioned Birchall

Hefyd o ddiddordeb: