Sport

Roedd digon o chwerthin yn Machynlleth ar benwythnos cyntaf Mai wrth i Ŵyl Gomedi Machynlleth gyrraedd ei degfed blwyddyn.

Ynghanol sioeau gan berfformwyr profiadol fel Josh Widdicombe, Nish Kumar, Stewart Lee, Elis James a Tudur Owen mae'n gyfle i gomedïwyr newydd ac roedd gig arbennig yn cyflwyno comedïwyr Cymraeg newydd.

Mae llawer yn digwydd mewn gwahanol leoliadau yr yr awyr agored hefyd - dyma flas o hwyl yr ŵyl drwy lygad y camera.

Arwydd Machynlleth fel un Hollywood
Mae'r arwydd Hollywoodaidd yn ymddangos yn Machynlleth adeg yr ŵyl bob blwyddyn Elin Vaughan Crowley
Nish Kumar
Mae Nish Kumar yn wyneb cyfarwydd ar deledu fel cyflwynydd The Mash Report Edward Moore
Aeron Pugh yn sgwrsio gyda dau ddyn arall
Aeron Pugh, neu Ben Dant i rai o wylwyr Cyw, yn cael peint gyda ffrindiau Elin Vaughan Crowley
Esyllt Sears yn cyflwyno sioe radio
Esyllt Sears yn cyflwyno i Radio Cymru Elin Vaughan Crowley
Dau ddyn yn ymaflyd
Rhai o'r perfformwyr ar lwyfan y goedwig Elin Vaughan Crowley
Tudur Owen
Mae Tudur Owen yn un o'r perfformwyr sydd wedi bod yn cymryd rhan yn yr ŵyl ers ei dyddiau cynnar Elin Vaughan Crowley
Dynes yn taflu ei breichiau i'r awyr a dynes arall yn gwenu arni
Blaze Tarsha a'i mam Fatina yn perfformio sgiliau syrcas Elin Vaughan Crowley
Dwy ddynes â phaent yn addurno eu hwynebau
Perfformwyr yn mwynhau yn yr haul Elin Vaughan Crowley
Dyn yn jyglo yn y goedwig
Richard Filby o Awstralia yn jyglo peli a chyllyll Elin Vaughan Crowley
Plant yn chwerthin
Rhywbeth wedi ticlo Gwern ac Elis! Elin Vaughan Crowley
Rod Gilbert o flaen cynulleidfa fawr
Roedd Rhod Gilbert yn cyflwyno i Radio Wales o'r ŵyl
Dynes mewn gwisg felen yn perfformio
Mae llawer o berfformwyr profiadol a rhai newydd yn rhoi cynnig ar ddeunydd newydd o flaen cynulleidfa Machynlleth Edward Moore
Plant y mwynhau hufen ia
Daeth yr haul i Fachynlleth i goroni pen-blwydd yr ŵyl Elin Vaughan Crowley
Dyn mewn het a bunting o'i gwmpas
John Cantor ar ei feic Elin Vaughan Crowley
Mark Watson yn perfformio
Edward Moore
Dawnsio o amgylch maypole
Plant yn dawnsio o amgylch y fedwen Fai Elin Vaughan Crowley
Dynes tu allan i'w charafan
Julie Jones a'i Charafan Celf Elin Vaughan Crowley
Dynes yn astudio taflen
Digon i ymgolli ynddo yn rhaglen yr ŵyl Elin Vaughan Crowley
Dyn mewn masg
Dyn mewn masg teigr - dyna'i gyd Elin Vaughan Crowley
Dynes mewn bar yn edrych ar ei ffôn gyd diod yn ei llaw arall
Y bar - lle prysur a phoblogaidd! Elin Vaughan Crowley
Pobl mewn gig
Y brif babell gyda'r nos Elin Vaughan Crowley

Hefyd o ddiddordeb: