Sport

Mae hi'n wanwyn, y coed yn blaguro a'r gwenoliaid wedi dechrau cyrraedd, ond ar ôl cyfnod y dywydd braf, roedd yna groeso rhynllyd iddyn nhw yn wythnos gyntaf Ebrill wrth i rannau o Gymru ddeffro i flanced o eira.

Car pedwar gyriant yn mynd drwy'r eira
Mae un o'r rhain yn help garw mewn eira ar dir uchel Weather Watchers/Badgers Paw
Defaid yn yr eira yng Nghaerffili
Mae bwyd yn brin i'r defaid yma yn yr eira yng Nghaerffili Weather Watchers / Badgers Paw
Golau hyfryd wrth i'r haul godi dros Lansilin dan eira ym Mhowys
Golau hyfryd wrth i'r haul godi dros Lansilin dan eira ym Mhowys Weather Watchers/Malc Pentre
Ci defaid yn yr eira
Yn Ninas Mawddwy, roedd Meirion Jones a'i gi yn ceisio cadw'n gynnes wrth helpu gyda'r wyna ar fferm ei deulu Meirion Jones
Eira ar y bryniau
Mae'r eira yn achosi trafferthion i ffermwyr ond mae'n gwneud i'r bryniau edrych yn hynod o dlws Meirion Jones
Blodau yn yr eira
Roedd yna flodau bach wedi cael dipyn o sioc yng Nghwm Cynllwyd ger Llanuwchllyn Luned Meredith
Giat a thy yn yr eira
Roedd y caeau yno'n wyn a dim golwg fod y pluo yn dod i ben fore Mercher Luned Meredith
Eira'n syrthio ar Lyn Ogwen
P'nawn dydd Mercher oer yn Nyffryn Ogwen Awen M Photography
Ffordd heibio Capel Curig
Y ffordd yn glir ond y copaon yn wyn yng Nghapel Curig Siani
Ffordd a chaeau dan eira yng Nglynebwy
Yr eira wedi troi'r byd yn ddu a gwyn yng Nglynebwy Weather Watchers/Nina
Bwlch-y-Groes yn hollol wyn
Fyddai hi ddim yn ddoeth i neb fentro dros Fwlch-y-Groes, ffordd uchaf Cymru, yn ôl llun arall a dynnwyd ddydd Mercher gan Meirion Jones, sy'n ddyn camera i'r BBC Meirion Jones
Ffordd Pen-y-Pass dan eira
Rhannodd Gwynfor Coaches lun o Ben-y-Pass ar Facebook i egluro pam nad oedd eu gwasanaeth yn rhedeg yno fore Mercher Gwynfor Coaches
Eira ar Bylchau, Mynydd Hiraaethog
Stori debyg oedd ar ffordd Bylchau, Mynydd Hiraethog, rhwng Sir Ddinbych a Chonwy meddai Tudur Davies Tudur Davies
Eirlaw ar ffenestr car
"Druan â'r ŵyn bach newydd," meddai gohebydd BBC Cymru, Sara Gibson, oedd ddim wedi disgwyl yr olygfa yma wrth yrru drwy Ffostrasol Sara Gibson

Ond mae'n debyg nad ydi eira yn mis Ebrill yn anarferol yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Mae eira'n fwy tebygol o syrthio yn Ebrill nag yn mis Tachwedd medden nhw, ond yn fwy tebyg o aros ar y ddaear ym mis Tachwedd nag Ebrill.

Felly peidiwch â thynnu'r fest 'na eto!

Ac o leia mae'r cyfuniadau tywydd od rydyn ni'n ei gael yr amser yma o'r flwyddyn yn gallu creu golgfeydd rhyfeddol o dlws fel yr enfys isel yma dros draeth Harlech mae Gwyn Headley wedi ei ddal ar gamera.

Enfys isel dros draeth Harlech
Gwyn Headley/Fotolibra
  • Mae eich rhagolygon lleol ar wefan dywydd y BBC (newidiwch yr iaith i Gymraeg dan y pennawd Gosodiadau/Settings a dewis eich lleoliad yn blwch chwilio)

Hefyd o ddiddordeb: