Sport

Ar Ddiwrnod y Llyfr bob blwyddyn, mae yna olygfeydd go ryfedd i'w gweld mewn ysgolion ar draws Cymru, wrth i ddisgyblion wisgo fel eu hoff gymeriad - a doedd eleni ddim yn eithriad!

Pawb
Caws! Aeth Bethan Gwanas draw i Ysgol Llanfechell, Ynys Môn, i adrodd straeon gyda'r plant, ac wrth gwrs, i ddotio at eu gwisgoedd ffansi
Jemeima Mop a Jac y Jwc
Mae Mali a Macsen yn gwerthfawrogi'n fawr fod Mam-gu wedi bod wrthi'n brysur yn creu eu gwisgoedd Jemeima Mop a Jac y Jwc arbennig! Beth Ellis
Sam Tân
Yn wên o glust i glust: Mae Ellis wrth ei fodd ei fod o'n cael gwisgo fel ei arwr, Sam Tân, i fynd i'r ysgol! Emma Watt
Llyfrgell Genedlaethol
Aeth Ysgolion Baladeulyn, Nebo a'r Eifl draw i'r lle gewch chi'r holl lyfrau - y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth - i ddathlu Diwrnod y Llyfr Ysgol Baladeulyn
Elsa ac Efa
Mae Elsa ac Efa wedi dod i'r ysgol wedi gwisgo fel Loli o'r llyfrau Deian a Loli gan Kate Roberts, sydd bellach yn gyfres deledu boblogaidd. Ond tybed sut mae eu sgiliau hud a lledrith nhw?
Dafad
Pwy sydd wedi gwisgo fel y Ddafad Ddrwg? Megan! (neu Meeegan?!) Lynwen John
Tomi a Tara
Dewisodd Tomi a Tara wisgo fel y cymeriadau hudolus Harry Potter a Matilda Sian Jones
Amser stori
Amser stori... ydi pawb yn gwrando'n astud?
Hari a Tomos
Tomos a Harri (neu Luigi a Spiderman) yn mwynhau
Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg
Roedd yna ddigon o gymeriadau gwych a gwallgo' draw yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg
Pobl y pants
Fel arfer mae'r trôns i fod o dan y trwsus... Gobeithio fod Tomos ddim yn rhy oer, ag yntau wedi gwisgo fel un o'r cymeriadau o'r gyfres Pobl y Pants Hollie Locke
Lily, Oliver ac Alys
Cafodd Lily, Oliver ac Alys eu hysbrydoli gan eu hoff gymeriadau Roald Dahl - Matilda a Willy Wonka!
Henri'r Helynt ac Alun yr Arth yn y Castell/Brigddyn
Cafodd y brodyr Osian a Gwion lawer o hwyl yn mynd i'r ysgol wedi eu gwisgo fel Henri'r Helynt ac Alun yr Arth yn y Castell - ac fe gafodd Seren Haf ei thrawsnewid i'r Brigddyn mewn gwisg ar-bren-nig! Delyth Jones / Ceri Jones
Ysgol y Gorlan
Rhai o ddisgyblion Ysgol y Gorlan yn dangos y llyfrau sydd wedi ysbrydoli eu gwisgoedd gwych Ysgol y Gorlan
Ollie ac Erinn
Dau gawr ydi Ollie ac Érinn - y Cawr Mawr Mwyn ar y chwith, a'r Cawr Mwya Crand Yn Y Dre ar y dde
Rhys Williams
A dyma Gawr Mawr Mwyn hyd yn oed yn fwy. Mae Mr Williams yn dangos nad yw gwisg ffansi yn rhywbeth i'r plant yn unig! Rhys Williams

Hefyd o ddiddordeb: