Sport

Coeden
Fe wnaeth y gwynt drechu'r goeden 150 oed yma yn Sir Benfro dros nos Rob Penfold

Fe wnaeth tua 1,000 o gartrefi yn ne Cymru golli eu cyflenwad trydan a cafodd ffyrdd ar draws y wlad wedi'u rhwystro yn dilyn gwyntoedd cryfion dros nos.

Fe wnaeth y cartrefi golli pŵer fore Sul, ac roedd tua 500 o'r rheiny yn ardal Tymbl yn Sir Gâr.

Cafodd yr A470 ei rhwystro'n rhannol yn Llanrwst wedi i goeden ddisgyn ar y ffordd.

Yn Aberporth yng Ngheredigion fe welwyd hyrddiadau o hyd at 69mya.

Aberystwyth
Fe wnaeth y goeden yma ddisgyn ar ffordd yn Aberystwyth dros nos @conradscab

Mae cyfyngiadau cyflymder hefyd wedi bod mewn grym ar yr M48 dros Bont Hafren a'r A55 dros Bont Britannia.

Cafodd rhai fferïau eu canslo rhwng Caergybi a Dulyn ac roedd oedi ar y rhwydwaith trenau hefyd.