Sport

Fel y stryd fawr, mae banciau bwyd yn prysuro dros y Nadolig gyda rhai unigolion a theuluoedd yn dibynnu arnynt.

Mae banc bwyd Caerfyrddin wedi cynnig bwyd a chefnogaeth i bobl leol ers 2011 ac yn cael ei redeg gan Eglwys Gymunedol Tywi. Nadolig yw un o'r cyfnodau mwya' prysur yno, gyda'r tywydd oer a chostau'r Ŵyl yn rhoi pwysau ychwanegol ar bobl mewn argyfwng.

Yn ôl Bronwen, un o'r gwirfoddolwyr: "Mae pobl Caerfyrddin wedi bod yn dod trwy'r dydd ers tair wythnos i gyfrannu bwyd a phob math o bethau Nadoligaidd, yn gwybod fod eisiau rhyw treat bach arno ni i gyd."

Buodd Cymru Fyw yno i weld prysurdeb y banc bwyd cyn y Nadolig.

Lluniau: Aled Llywelyn

line
Cyfarfod a gweddi cyn i waith y dydd gychwyn
Aled Llywelyn

Cyfarfod a gweddi i'r gwirfoddolwyr cyn i waith y dydd gychwyn.

line
Un o'r gwirfoddolwyr yn y cyfarfod
Aled Llywelyn
line
Munud i eistedd cyn i'r gwaith gychwyn
Aled Llywelyn
line
Gwirfoddolwyr Trussell Trust
Aled Llywelyn

Mae'r banc bwyd yng Nghaerfyrddin yn rhan o rwydwaith y Trussell Trust.

line
Gwirfoddolwr yn gwagio bag llawn bwyd
Aled Llywelyn

Ym mis Rhagfyr 2017, rhoddodd banciau bwyd y Trussell Trust dros 150,000 o becynnau bwyd i bobl mewn angen.

line
Mae'r gwirfoddolwyr yn labelu'r bwyd gyda dyddiadau defnyddio
Aled Llywelyn

Mae'r gwirfoddolwyr yn labelu'r bwyd gyda dyddiadau defnyddio.

line
Storio'r bwyd yn ôl dyddiad er mwyn sicrhau taw bwyd ffres sy' yn y rhoddion
Aled Llywelyn

Storio'r bwyd yn ôl dyddiad er mwyn sicrhau fod y bwyd yn y pecynnau yn iawn i'w bwyta.

line
Nwyddau hylendid merched hefyd yn rhoddion defnyddiol
Aled Llywelyn

Y flaenoriaeth yw bwyd ond mae angen pethau fel sebon, shampŵ a nwyddau hylendid merched hefyd. Mae un dyn busnes lleol wedi cyfrannu dros 2,000 o roliau papur tŷ bach.

line
Siwmperi plant er mwyn cadw'n gynnes
Aled Llywelyn

Siwmperi plant er mwyn eu cadw'n gynnes.

line
Anrhegion Nadolig i blant
Aled Llywelyn

Anrhegion Nadolig i blant ar gyfer teuluoedd sy'n methu fforddio costau'r Ŵyl.

line
Siocledi i'w rhoi yn y pecynnau bwyd Nadolig
Aled Llywelyn

Siocledi i'w rhoi yn y pecynnau bwyd Nadolig.

line
Gweithio gyda'u gilydd i bacio'r pecynnau bwyd
Aled Llywelyn

Mae pob pecyn bwyd wedi ei gynllunio gan ddeietegydd i fod yn faethlon.

line
Nadolig yn gyfnod prysur yn y banc bwyd
Aled Llywelyn

Mae 'na 30 o wirfoddolwyr yn helpu yno.

line
Cyfle i fwynhau dished a siocled ar ôl i waith y dydd orffen
Aled Llywelyn

Hetiau a hwyl y Nadolig - cyfle i fwynhau dished a siocled ar ôl i waith y dydd i ddod i ben.

line

Efallai o ddiddordeb: