Sport

Mae'r olygfa ar draws Llyn Padarn tuag at Yr Wyddfa yn un o rai mwyaf eiconig Cymru. Yn ystod 2018, fe aeth Cymru Fyw i'r un lleoliad bob mis er mwyn tynnu llun ohoni.

Blwyddyn Newydd Dda gan dîm Cymru Fyw!

Wyddfa Ionawr
Yr haul yn codi tu ôl i Grib Goch ar ddechrau blwyddyn newydd ym mis Ionawr 2018
Wyddfa Chwefror
Dyma un ffordd i osgoi'r lonydd rhewllyd wrth i eira trwm ddisgyn ym mis Chwefror
Mawrth Wyddfa
Mis Mawrth, a'r eira'n parhau ar dir uchel
Wyddfa Ebrill
Golau ola'r diwrnod wrth i'r dydd ddechrau ymestyn ym mis Ebrill
Mai Wyddfa
"Gwn ei ddyfod mis y mêl, gyda'i firi, gyda'i flodau" - mis Mai
Mehefin Wyddfa
Yr olygfa yma o bont Pen Llyn wnaeth ysbrydoli R Williams Parry yn ei gerdd Tylluanod - "Pan siglai'r hwyaid gwylltion wrth angor dan y lloer"
Wyddfa Gorffennaf
Mae'r dŵr yn isel yn Llyn Padarn ar ôl haul a sychder Gorffennaf - ac yn ddigon cynnes i rai nofio ynddo, os edrychwch yn ofalus ar ochr chwith y llun
Wyddfa Awst
Yr hen draddodiad Cymreig o gael glaw ym mis Awst
Medi Wyddfa
Mis Medi ac "aros mae'r mynyddau mawr, rhuo drostynt mae y gwynt"
Hydref Wyddfa
Y dail wedi troi eu lliw a'r mynyddoedd yn dangos arwydd cyntaf o'r gaeaf
Wyddfa Tachwedd
Tachwedd - y "mis dig du"
Wyddfa Rhagfyr
Y wawr yn torri uwchben Eryri wrth i 2018 dynnu at ei therfyn

Lluniau: Bryn Jones

line

Efallai hefyd o ddiddordeb: