Sport

Daeth y newyddion heddiw y bydd Llywodraeth y DU yn enwebu ardaloedd llechi Gwynedd i fod yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.

Y saith ardal benodol yw Dyffryn Ogwen, Dinorwig, Dyffryn Nantlle, Ffestiniog, Cwm Pennant, Abergynolwyn ac Aberllefenni. Bydd yn cael ei chyflwyno i UNESCO yn ffurfiol y flwyddyn nesaf.

Mae'r llyfr Welsh Slate: Archaeology and History of an Industry gan David Gwyn, archeolegydd diwydiannol o Benygroes, yn olrhain hanes rhai o'r chwareli a'u cymunedau. Yn y gyfrol mae yna luniau trawiadol o'r amodau gwaith yn y chwareli, a gafodd eu cyhoeddi gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Dyma flas o rai o'r lluniau o'r gweithwyr a'r tirwedd:

Naddwr llechi yn Chwarel y Penrhyn
Naddwr llechi yn Chwarel y Penrhyn Hawlfraint y Goron: CBHC
Chwarelwyr Dorothea
Chwarelwyr Dorothea, Dyffryn Nantlle HAWLFRAINT Y goron: CBHC
Pwyllgor chwarelwyr y Penrhyn: arweinydd yr undeb, W. J. Parry (chwith), yn wynebu'r Arglwydd Penrhyn (dde)
Pwyllgor chwarelwyr y Penrhyn: arweinydd yr undeb, W. J. Parry (chwith), yn wynebu'r Arglwydd Penrhyn (dde) Hawlfraint y Goron: CBHC
Melin llawr 5 yn chwarel Llechwedd
Melin llawr 5 yn chwarel Llechwedd © Hawlfraint y Goron: CBHC
William John Parry yn arwain ymwelwyr enwog o'r mudiad llafur o amgylch chwarel gydweithredol Pant Dreiniog a'i chyfarpar newydd
William John Parry yn arwain ymwelwyr enwog o'r mudiad llafur o amgylch chwarel gydweithredol Pant Dreiniog a'i chyfarpar newydd Hawlfraint y Goron: CBHC
Melin slabiau Ynys y Pandy gyda chwarel Gorsedda yn y cefndir
Melin slabiau Ynys y Pandy gyda chwarel Gorsedda yn y cefndir Hawlfraint y Goron: CBHC
Barics y Dre' Newydd yn chwarel Dinorwig
Barics y Dre' Newydd yn chwarel Dinorwig Hawlfraint y Goron: CBHC
Chwareli Ffestiniog
Chwareli Ffestiniog Hawfraint y Goron: CBHC
Llun o'r awyr o dirwedd Nantlle
Chwareli Dyffryn Nantlle Hawlfraint y Goron: CBHC
Cei Llechi Caernarfon
Cafodd y llechi eu cludo i farchnadoedd ar hyd a lled y byd o Gei Caernarfon Hawlfraint y Goron: CBHC

Cafodd y lluniau yma eu cyhoeddi gan Cymru Fyw yn wreiddiol mewn erthygl ym mis Mai 2015.