Sport

Wedi apêl am fwy o wybodaeth am gasgliad arbennig o luniau o ddyddiau olaf rhai o byllau glo de Cymru mae Archifdy Morgannwg wedi dod o hyd i'r ffotograffydd wnaeth eu tynnu.

Mae'r lluniau'n dangos glowyr ym mhwll glo Abercynon tua 1980 ac yn cofnodi cau pyllau eraill yn yr 1980au.

Mae'r casgliad hefyd yn cynnwys lluniau o blant a theuluoedd yn casglu glo o'r tipiau yn ystod streic y glowyr 1984-1985.

Ffotograffydd amatur o'r enw Leslie Price a oedd yn gweithio yng Nglofa Abercynon wnaeth dynnu'r lluniau i gofnodi bywyd yn y glofeydd ac yn ystod y streic.

Fe gawson nhw eu trosglwyddo i'r archifdy ddechrau 2018 wedi iddyn nhw gael eu darganfod yn yr Alban lle roedden nhw wedi cael eu harddangos.

Mae enwau rhai o'r glowyr ar y lluniau ond mae'r archifdy'n dal eisiau gwybod mwy am y pyllau a'r bobl yn y lluniau.

Dyma ddetholiad o'r 79 o luniau sydd yn y casgliad i gyd - mae mwy o wybodaeth a manylion cyswllt ar flog yr archifdy. ↗

V6 Boys
Bois y V6, glofa Abercynon Archifdy Morgannwg
Glowr
Roy Lewis, trydanwr, Abercynon Archifdy Morgannwg
5
Dynion 'salvage' yn Abercynon Archifdy Morgannwg
6
Baddondai Abercynon Archifdy Morgannwg
4
Un arall o lowyr Abercynon Archifdy Morgannwg
2
Alex Withers, yng ngofal dillad gwaith Archifdy Morgannwg
Glowr
Mike James, ffitiwr Archifdy Morgannwg
3
Tony Morgan a lamp glo wrth ei ochr Archifdy Morgannwg
7
Derek Williams, Danny Williams, Darell Dixon, shifft baratoi Archifdy Morgannwg
0
Plant yn casglu glo ar dip Cwmcynon yn ystod y streic Archifdy Morgannwg
fd
"Helpu dad" Archifdy Morgannwg
fd
Reid mewn pram Archifdy Morgannwg
fd
Plant yn casglu glo Archifdy Morgannwg
fd
Teulu'n casglu glo yn yr eira Archifdy Morgannwg
fd
Glofa Bedwas yn segur Archifdy Morgannwg
fds
Sbwriel yng nglofa gwag Coedely a newyddion am lofa Lewis Merthyr ar flaen y papur newydd Archifdy Morgannwg

Mae modd gweld rhai o'r lluniau mewn diwrnod agored yn yr archifau dydd Sadwrn 29 Medi. ↗

Hefyd o ddddordeb: