Fedrwch chi adrodd geiriau'r anthem genedlaethol i gyd?
Bydd miloedd yn ei ganu heno yn Stadiwm Dinas Caerdydd wrth i Gymru herio Gweriniaeth Iwerddon, ond fedrwch chi adrodd geiriau Hen Wlad fy Nhadau neu oes angen y gerddoriaeth arnoch chi?
Yn fwy pwysig, ydych chi'n gwybod geiriau'r ail bennill?
Bu'r gohebydd Ednyfed Davies yn gofyn i bobl roi cynnig arni yn y clip archif yma o'r rhaglen 'Heddiw', a ddarlledwyd yn 1963.
- Tudalen Wicipedia Hen Wlad Fy Nhadau gyda'r geiriau'n llawn, dolen allanol
- Egluro Hen Wlad Fy Nhadau mewn 200 gair
- Is-adranCylchgrawn
- Cyhoeddwyd6 Medi 2018