Sport

Mae hi'n amser sioe amaethyddol flynyddol Môn, sy'n digwydd eleni - fel pob blwyddyn arall - ym Mona ger Gwalchmai.

Y ffotograffydd Dafydd Owen, o gwmni FfotoNant, oedd yno ar ein rhan:

ceffyl
Dafydd Owen

Roedd safon y cystadlu'n uchel iawn...

Ffermwyr lleol yn mwynhau gwylio'r defaid Texel yn cael eu beirniadu
Dafydd Owen

Ffermwyr lleol yn mwynhau gwylio'r defaid Texel yn cael eu beirniadu.

maharan
Dafydd Owen

"Iawn?!" Wiltshire Horns yn disgwyl yn amyneddgar i gael eu beirniadu.

Ymwelwyr i'r Sioe yn mwynhau'r feirniadaeth yn un o gystadleuaethau arddangos y moch
Dafydd Owen

Ymwelwyr i'r Sioe yn mwynhau'r feirniadaeth yn un o gystadlaethau arddangos y moch.

defaid
Dafydd Owen

Y beirniaid yn cael golwg agos ar y defaid Shropshire cyn dewis yr anifail buddugol.

Roedd yna ddigon o arlwy yn y Neuadd Fwyd, gyda'r stondin olewydd yn profi'n boblogaidd!
Dafydd Owen

Roedd yna ddigon o arlwy yn y Neuadd Fwyd, gyda'r stondin olewydd yn profi'n boblogaidd!

Merched Môn yn mwynhau'r sioe!
Dafydd Owen

Merched Môn yn mwynhau'r sioe!

Ceffyl
Dafydd Owen

Roedd pawb oedd yn cymryd rhan yn y cystadlu, gan gynnwys y ceffylau, wedi ymbincio.

Roedd cryn dipyn wedi mynd i wylio'r cneifio. Yma mae'r cneifio yn cael ei wneud a sisyrnau "wind-up".
Dafydd Owen

Roedd cryn dipyn wedi mynd i wylio'r cneifio. Yma mae'r cneifio yn cael ei wneud â sisyrnau wind-up.

Mi wnaeth lot o'r criw ifanc heidio am y ffair, yn mwynhau'r "rides" gorau oedd gan y sioe i'w gynnig
Dafydd Owen

Roedd safle'r ffair yn gyfle i'r ieuenctid fwynhau ambell i reid...

Roedd tipyn o ffermwyr ifanc y sir yn ymddiddori ac yn cystadlu eleni - enillwyr y dyfodol?
Dafydd Owen

Roedd tipyn o ffermwyr ifanc y sir yn ymddiddori ac yn cystadlu eleni - enillwyr y dyfodol?

ceffyl
Dafydd Owen

Smart iawn chi'ch dau! Ceffyl Show Cob yn dangos ei hun o flaen y cannoedd oedd wedi dod i'r prif gylch i'w gweld.

Roedd cystadleuaeth Dyn Cryfaf Gogledd Cymru yn cael ei gynnal ar maes y sioe eleni am y tro cyntaf.
Dafydd Owen

Roedd cystadleuaeth Dyn Cryfaf Gogledd Cymru yn cael ei chynnal ar faes y sioe eleni am y tro cyntaf.

Roedd perchnogion yr hen dractors yn hapus i ddangos eu peiriannau arbennig!
Dafydd Owen

Roedd perchnogion yr hen dractors yn fwy na bodlon i ddangos eu peiriannau arbennig!

Roedd ras y "Shetland Ponies" tuag at ddiwedd y dydd, gyda'r plant yn rasio'r ceffylau bychain" yn atyniad mawr, gyda llawer o'r ymwelwyr yn heidio draw i wylio.
Dafydd Owen

Roedd ras y "Shetland Ponies" yn un o ddigwyddiadau olaf dydd Mawrth, gyda'r plant yn rasio'r ceffylau bychain yn atyniad mawr.

line

Hefyd o ddiddordeb: