Sport

Mewn seremoni yng Nghaerdydd nos Fawrth, cyhoeddwyd mai Blodau Cymru: Byd y Planhigion gan Goronwy Wynne gipiodd teitl Llyfr y Flwyddyn 2018.

Cafodd deg enillydd eu gwobrwyo yn y seremoni, sy'n dathlu llyfrau mewn tri chategori yn y Gymraeg a'r Saesneg - barddoniaeth, ffuglen a ffeithiol greadigol.

Cliciwch yma i weld holl enillwyr Llyfr y Flwyddyn 2018.

Roedd y ffotograffydd Sioned Birchall yno ar ein rhan:

line
Goronwy Wynne
Enillydd y brif wobr Gymraeg, Goronwy Wynne, yn mwynhau diod a sgwrs Sioned Birchall
Tramshed
Cafodd y noson ei chynnal yn y Tramshed yng Nghaerdydd am yr ail flwyddyn yn olynol - ac roedd hi'n braf iawn! Sioned Birchall
Gareth Potter
Roedd y DJ Gareth Potter yno eto eleni yn diddanu pobl gyda'i gerddoriaeth Sioned Birchall
Gwion Hallam
Y prifardd Gwion Hallam oedd yn cyflwyno'r noson Sioned Birchall
Ifor ap Glyn
Ifor ap Glyn, bardd cenedlaethol Cymru, ar leoliad gyda chriw ffilmio Sioned Birchall
Caryl Lewis
Yr awdur Caryl Lewis, cyn-enillydd a beirniad ar y noson, yn edrych tua'r llwyfan Sioned Birchall
Peredur Lynch
Peredur Lynch, enillydd Gwobr Barn y Bobl Golwg 360, am ei gyfrol farddoniaeth gyntaf, Caeth a Rhydd Sioned Birchall
Crystal Jeans a Gwion Hallam
Yr awdures Crystal Jeans, enillydd y wobr Ffuglen Saesneg am ei llyfr Lightswitches Are My Kryptonite Sioned Birchall
"Dal yn ffrindiau?" Catrin Dafydd, enillydd yn y categori ffuglen Gymraeg am ei chyfrol Gwales... ar draul Llŷr Gwyn Lewis a'i lyfr Fabula
"Dal yn ffrindiau?" Catrin Dafydd, enillydd yn y categori ffuglen Gymraeg am ei chyfrol Gwales... ar draul Llŷr Gwyn Lewis a'i lyfr Fabula Sioned Birchall
Tristan Hughes
Enillydd y Wales Arts Review People's Choice Prize oedd Tristan Hughes am ei nofel Hummingbird Sioned Birchall
Caryl Lewis a Hywel Griffiths
"Mae anwylder y dweud yn cyfareddu" meddai Caryl Lewis, wrth gyhoeddi mai Hywel Griffiths a'i gyfrol Llif Coch Awst oedd yr enillydd yng nghategori'r gyfrol farddoniaeth Gymraeg Sioned Birchall
Robert Minhinnick
Robert Minhinnick enillodd Llyfr Saesneg y Flwyddyn am ei gyfrol o farddoniaeth, Diary of the Last Man Sioned Birchall
Goronwy Wynne
Goronwy Wynne yn mwynhau'r noson Sioned Birchall
Yr Athro M. Wynn Thomas
Yr Athro M. Wynn Thomas oedd yn fuddugol yn y categori Ffeithiol Greadigol Saesneg am ei gyfrol All That Is Wales: The Collected Essays of M. Wynn Thomas Sioned Birchall
Goronwy
Y beirniaid Caryl Lewis, Beti George ac Aneirin Karadog gyda Goronwy Wynne (ail o'r chwith) Sioned Birchall
line

O'r archif:

line