Sport

Daeth yr haul i dywynnu ar drydedd gŵyl fwyd tref Caernarfon ar 12 Mai 2018 gyda miloedd yn ymweld unwaith eto.

Dyma flas ar y diwrnod:

Band Pres Llareggub
Haleliwia, diolch byth am yr haul! Roedd Band Pres Llareggub yn dod ag ysbryd parti i'r strydoedd Iolo Penri
Maes Caernarfon dan ei sang
Maes Caernarfon dan ei sang Iolo Penri
Chris Roberts gyda'i asado
Chris 'Foodgasm' Roberts yn coginio asado cig oen i bobl y dre o fewn waliau Castell Caernarfon Iolo Penri
Potiau jam
Tisho jam arni? Mae 'na ddigon o ddewis Iolo Penri
Aros i'r nionod ffrio i gael byrgyr
Hir yw pob ymaros tra mae'r nionod yn ffrio Iolo Penri
Wal tafarn yr Anglesey ar lan y Fenai
Mae wal yr Anglesey ar lan y Fenai bob amser yn denu yn y tywydd braf ond roedd mwy fyth yno i fwynhau bwyd a cherddoriaeth y penwythnos hwn Iolo Penri
Babi bach yn ydio mewn mochyn tegan
Ydi hi am fwyta'r mochyn yna? Iolo Penri
Tynnu peint
Cwrw Cymreig yn llifo Iolo Penri
Stondin fadarch
"Madarch-i fwyd da yma..." Iolo Penri
Tair merch wedi paentio eu wynebau
Mae'n rheol - os ydych chi'n blentyn ac mewn gŵyl, rhaid ichi baentio eich wynebau! Iolo Penri
Gwilym Bowen Rhys yn canu wrth y Bar Bach
Sesiwn werin gan Gwilym Bowen Rhys. Tybed fyddai Edward 1af wedi gallu dychmygu hyn yng nghysgod waliau ei gastell? Iolo Penri
Dawnswyr Caernarfon yn dawnsio wrth y castell
Mae'r holl fwyd da ma'n gwneud i bobl fod eisiau dawnsio! Iolo Penri
Dawnswyr Caernarfon yn cael peint
Mae dawnswyr Caernarfon yn haeddu'r peint yna ar ôl perfformio Iolo Penri
Tyrfaoedd yn Noc Fictoria
Mae'r ŵyl eleni wedi ehangu i gynnwys Doc Fictoria a'r promenâd yn y dref Iolo Penri
Plant yn paentio cacennau cardbord
Wneith pobl sylwi bod y cacennau yma wedi eu gwneud o gardbord? Iolo Penri
Perfformwyr fel morforwynion ar stilts
Mae'r arogleuon da wedi denu'r creaduriaid yma o'r Fenai Iolo Penri
Côrnarfon mewn lliwiau lliwgar
Côrnarfon yn ychwanegu at liw y diwrnod Iolo Penri