Sport

Wedi'r holl gystadlu a'r cyfrif canlyniadau, Prifysgol Bangor ddaeth i'r brig yn Eisteddfod Ryng-golegol 2018 ac un o fyfyrwyr Bangor, Osian Owen, oedd enillydd y Gadair a'r Goron.

Mae'r steddfod yn un o uchafbwynt cymdeithasol a diwylliannol myfyrwyr Cymraeg Cymru ac roedd yn cael ei chynnal am y tro cyntaf yn Llanbedr Pont Steffan eleni gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Dyma luniau'r ffotograffydd Aled Llywelyn o'r penwythnos:

Merch yn rhoi bodiau fyny
Bodiau fyny i'r Steddfod Rhyng-gol gan un o fyfyrwyr Bangor Aled Llywelyn
Merch efo gitâr ffug yn canu
Mae 'na dipyn o Roc a Rôl ar benwythnos y Rhyng-gol... Aled Llywelyn
Myfyrwyr Caerdydd yn canu
ond hefyd mae yna ganu... Aled Llywelyn
Myfyriwr yn cymeradwyo
... a chymeradwyo Aled Llywelyn
Myfyrwyr yn canu
... a pherfformio Aled Llywelyn
Merch yn y gynulleidfa yn mwynhau
... a mwynhau Aled Llywelyn
tri enillydd
... a gwobrwyo. O'r chwith i'r dde: Nia Haf, Bangor, enillydd y Fedal Ddrama; Alistair Mahoney, Bangor, enillydd Tlws y Cerddor a Non Jones, Aberystwyth, enillydd y Fedal Gelf Aled Llywelyn
Osian Owen yn ennill y Gadair
Llongyfarchiadau i Osian Owen, enillydd y Gadair a'r Goron. Daeth yn agos i 150 o ddarnau gwaith cartref eleni. c
Hogiau'n dawnsio
Coreograffi difyr gan fyfyrwyr Caerdydd Aled Llywelyn
Marci G
Marc Griffiths - Marci G - oedd yn arwain yr Eisteddfod gyda Lisa Angharad Aled Llywelyn
Chwarae pêl-droed
Dechreuodd penwythnos yr Eisteddfod gyda thwrnameint chwaraeon ar ddydd Gwener 9 Mawrth. Prifysgol Aberystwyth oedd yr enillwyr Aled Llywelyn
Ysgwyd llaw ar y cae chwarae
Mae penwythnos y Rhyng-gol yn gyfe i fyfyrwyr o wahanol brifysgolion Cymru gymysgu Aled Llywelyn
Un o ferched Bangor yn dathlu ar y cae chwarae
Ond mae ennill yn brofiad da hefyd! Aled Llywelyn
Myfyrwyr Bangor yn dathlu
Myfyrwyr Bangor wrth ei boddau. Enillwyr yr Eisteddfod a chystadleuaeth y côr hefyd Aled Llywelyn
Tarian y Buddugwyr
Y darian fydd yn mynd nôl i Fangor yn 2018 Aled Llywelyn
Gwilyn yn Gig Rhyng-gol 2018
Yr uchafbwynt i nifer - Gig Rhyng-gol 2018 gyda Y Cledrau, Fleur De Lys, Gwilym a DJ Garmon Aled Llywelyn