Sport

Gyda rhybudd coch o eira a thywydd garw mewn rhannau o Gymru fe wnaeth rhai ailenwi Dydd Gŵyl Dewi 2018 yn Ddydd Gŵyl Rhewi...

Dyma rai o luniau Cymru ar ddydd ein nawddsant eleni.

Cennin Pedr mewn eira
Llun gan Hayley Jenney i ddymuno Gŵyl Ddewi hapus o eira a rhew Llwynycoed Hayley Jenney
Merch fach mewn gwisg Gymreig
Ydy, mae hi'n oer, ond yn ffodus, does dim yn gynhesach na brethyn Cymreig! Ifan Evans/Twitter
Llewpart eira
O'r diwedd, mae yna eira i Lewpart Eira Sŵ Mynydd Cymru, Bae Colwyn! Sw Mynydd Bae Colwyn
Lluwch Pentrefoelas
Go brin fydd Ysgol Pentrefoelas yn agor heddiw
Staff a myfyrwyr cwrs Celtic English yng Nghaerdydd yn mentro allan i'r oerfel
Staff a myfyrwyr rhyngwladol cwrs Celtic English yng Nghaerdydd yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi yn yr eira Celtic English/Twitter
Giât bron o'r golwg mewn lluwch eira
"Druan o'r ffermwyr a'r anifeiliaid!" meddai Teleri Jones o Gwmtirmynach ger y Bala wedi gweld y lluwchfeydd yma Teleri Jones
Tri o blant mewn gwisgoedd Gwyl Ddewi
Triawd lliwgar yng Nghaernarfon yn barod i wynebu'r oerfel ar eu ffordd i'r ysgol Mererid Williams/Twitter
Cob Cymreig yn yr eira
Sunny (!) y Cob Cymreig yn cael ei frecwast mewn tymheredd o -7C yn Llanarmon yn Iâl, Sir Ddinbych Rob Jones/Cyngor Sir Ddinbych

Lluniau: Dydd Gŵyl Rhewi

Buches o wartheg duon mewn lluwch eira
Gwartheg duon yn y lluwchfeydd eira ym Mhentrefoelas Arfona Evans
Eira yng Nghaerdydd
Does neb llawer wedi mentro allan i fwyta yn Mill Lane, Caerdydd, heddiw Hannah Knowles
Ewyn môr yn debyg i eira ym Menllech, Ynys Môn
Nid eira, ond ewyn y môr wedi ei chwythu gan y gwyntoedd cryfion ym Menllech, Ynys Môn Sally Tolladay
Llyn wedi rhewi yng Ngresffordd ger Wrecsam
Llyn hwyaid yng Ngresffordd ger Wrecsam wedi rhewi
Afon Dwyryd edi rhewi
... a rhannau o afon Dwyryd ger Maentwrog hefyd wedi rhewi
Llanbrynmair mewn eira
Llanbrynmair ym Mhowys fore Dydd Gŵyl Dewi
Defaid yn cysgodi yn Ganllwyd, ger Dolgellau
Defaid yn cysgodi yn Ganllwyd, ger Dolgellau
Plant yn mwynhau
Mae nifer o blant Cymru yn methu'r cyfle i wisgo eu gwisgoedd Cymreig i'r ysgol heddiw, ond yn edrych yn hapus iawn beth bynnag!