Sport

Un o'r caneuon sy'n cael eu rhyddhau mewn casgliad newydd o glasuron merched y 60au a'r 70au yw cân sydd wedi dod yn ffefryn ymysg gwrandawyr rhaglen Tudur Owen ar Radio Cymru.

Does neb yn fwy syn ynglŷn â phoblogrwydd annisgwyl y gân Watshia Di Dy Hun na'r wraig oedd yn ei chanu yn 1969, Meinir Lloyd.

Meinir Lloyd a chlawr Watshia Di Dy Hun
Meinir Lloyd a record Watshia Di Dy Hun, un o'r cloriau o'r 1960au mae Sain wedi eu tyrchu o'r archif BBC/Sain

"Pan ddechreuodd rhaglen Tudur Owen ei chwarae roedd pobl yn dod ata'i ac yn dweud mod i ar y radio a doedd gen i ddim syniad!" meddai Meinir Lloyd.

"Ond dwi'n credu bod lot o bobl yn meddwl bod angen cael gwared arni erbyn hyn!

"Dwi wedi cael tair galwad yr wythnos diwetha' yn gofyn am ei chwarae mewn priodasau am dipyn bach o sbri yn y parti nos!

"Mae gen i ddau neu dri copi o'r hen record ac maen nhw yn y stafell ffrynt ar y shilff efo lot o bethau eraill - dwi ddim wedi meddwl amdani."

Yn y 1960au roedd Meinir yn ferch ysgol yn Ysgol Brynhyfryd Rhuthun.

Wedi canu dipyn o gerdd dant fe ddechreuodd ganu caneuon pop wrth gyfeilio i'w hun ar y delyn.

Cyfansoddodd Meinir y gân gyda'i brawd-yng-nghyfraith Elwyn Wilson Jones i gynrychioli Sir Ddinbych mewn cystadleuaeth.

Mae hi bellach yn byw yng Nghaerfyrddin gyda'i gŵr Peter Hughes Griffiths, sydd wedi bod yn amlwg ei hun yn y maes adloniant fel arweinydd ffraeth nosweithiau llawen. Eu mab yw'r Aelod Cynulliad Llŷr Huws Gruffydd.

"Roedd hi'n hit fawr ar y pryd ond dwi ddim yn cofio os ddaru ni ennill y gystadleuaeth neu ddim!" ychwanegodd.

Roedd Meinir Lloyd yn wyneb cyfarwydd iawn ar raglenni Cymraeg cynnar fel Disg a Dawn ac roedd ganddi ei chyfres ei hun hefyd o'r enw Mynd â'r Gân.

Mae'r gân yn ymddangos ar CD Rhannu'r Hen Gyfrinachau ↗.