Heb os, un o ddefodau mwyaf poblogaidd a lliwgar seremonïau Gorsedd y Beirdd yw y ddawns flodau.
Mae merched oedran ysgol gynradd ardal yr Eisteddfod yn dawnsio yng nghylch yr orsedd ac ar lwyfan y brifwyl i anrhydeddu'r prifardd, ac yn ddigon o sioe gyda'u penwisgoedd o flodau gwyllt y maes.
Ydych chi eisiau edrych mor ddel â nhw? Mae dwylo medrus Cymru Fyw yma i'ch helpu chi i greu un eich hun!
Byddwch angen:
- Tâp gwyrdd
- Siswrn tocio
- Weiren garddio
- Siswrn
- Rhuban
- Gwyrddni
- Blodau bach*
- Blodau lliwgar*
- Un blodyn mawr*
* Gallwch ddefnyddio blodau go iawn (fel merched y ddawns flodau) neu flodau ffug
- Mae angen digon o'r weiren i fynd o amgylch eich pen dair gwaith
- Gwnewch siâp cylch gyda'r weiren
- Torrwch y tâp gwyrdd yn stribedi bychain
- Defnyddiwch y tâp i gadw'r weiren at ei gilydd er mwyn creu ffrâm gadarn i'r penwisg
- Torrwch y gwyrddni, y blodau bach, a'r blodau lliwgar gan gadw'r coesau yn hir
- Ychwanegwch y gwyrddni at y weiren a'u rhoi yn sownd gyda'r tâp nes bod y ffrâm bron wedi ei gorchuddio i gyd
- Yna ychwanegwch y blodau bach, y blodyn mawr a'r blodau lliwgar at y ffrâm, er mwyn creu penwisg llawn lliw
- Yn olaf, ychwanegwch y rhuban drwy ei lapio yn dynn o amgylch y weiren sydd dal yn y golwg a defnyddio'r tâp i'w gadw yn ei le
Nawr, y cwbl rydych chi angen ei wneud yw ymarfer y ddawns...!