Sport

Map o Ynys Môn
Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Cynhelir yr Eisteddfod eleni ger pentref Bodedern ar Ynys Môn. Cyfeiriad y Maes yw LL65 3SS.

Ewch i wefan dywydd BBC Cymru i weld rhagolygon y tywydd ar gyfer Bodedern.

Click here for directions and weather in English

Sut i gyrraedd yr Eisteddfod

Mae'r Maes, y meysydd parcio, Maes B a'r holl feysydd carafanau, gwersylla a glampio drws nesaf i'w gilydd, felly dilynwch y cyfarwyddiadau isod ac yna dilyn yr arwyddion melyn i'r holl feysydd. Bydd system unffordd mewn lle ar y lonydd yma er mwyn lleihau tagfeydd ac i liniaru ar draffig ym mhentref Bodedern.

Ydyn ni yna eto? Cliciwch yma i chwarae gêm Bingo'r A470

O'r gorllewin: Wrth deithio ar yr A55, gadewch y ffordd ddeuol ar Gyffordd 4 a dilynwch yr arwyddion melyn.

O ochr Cemaes ac Amlwch: Dylai teithwyr fynd i'r Fali ac yna ymuno â'r A55 ar Gyffordd 3 (i'r dwyrain) cyn gadael y ffordd ddeuol ar Gyffordd 4 a dilyn yr arwyddion melyn.

O ochr Llangefni neu Lannerch-y-medd: Dylai teithwyr gyrraedd Trefor ac yna troi am yr A5 neu'r A55. Peidiwch â theithio tuag at Bodedern.

Os ydych chi'n anabl, dangoswch eich bathodyn glas i un o'r stiwardiaid yn y maes parcio, ac fe fyddwch yn cael ei cyfeirio at y llefydd parcio anabl.

Map i'r Eisteddfod
Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Beicio

Bydd llefydd cloi beiciau o flaen prif fynedfa'r Maes.

Cludiant cyhoeddus

Trenau

Yr orsaf drenau agosaf yw'r Fali. Manylion ar wefan Trenau Arriva Cymru. ↗

Bysiau

Manylion ar wefan Traveline Cymru ↗.

Awyren

Mae awyrennau yn hedfan rhwng Maes Awyr Caerdydd a Maes Awyr Môn yn Y Fali ddwywaith y dydd yn ystod yr wythnos. Manylion ar wefan Cyngor Ynys Môn. ↗

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan yr Eisteddfod Genedlaethol. ↗

Mwy o straeon a newyddion o'r Eisteddfod Genedlaethol