Sport

Carwyn Jones
Getty Images

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi cyhuddo Theresa May o "beidio gwrando" ar faterion yn ymwneud gyda datganoli.

Mewn cyfweliad gyda phapur newydd The Guardian ↗, fe rybuddiodd bod yna beryg i'r "datgysylltiad" mae pobl yn teimlo tuag at Frwsel ddod yn wir am Lundain ar ôl Brexit.

Gwnaeth Mr Jones ei sylwadau ddydd Sul, y diwrnod cyn i Mrs May a Chymru.

Mae disgwyl iddi gynnal sgwrs gyda Mr Jones ynglŷn â Brexit yn ystod ei hymweliad dydd Llun

Ond mae Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, yn honni bod yna "dir cyffredin" ynglŷn â'r Undeb Ewropeaidd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan.

Mae Mrs May yng Nghymru ddydd Llun er mwyn arwyddo cytundeb Bae Abertawe.

'Datgysylltiad'

Dywedodd Mr Jones wrth y Guardian: "Os nad ydyn nhw'n ofalus, bydd y teimlad o ddatgysylltiad mae pobl yn teimlo tuag at Frwsel yn cael ei gysylltu gyda Llundain.

"Maen nhw'n rhoi'r argraff weithiau nad ydyn nhw'n gwrando.

"A pa fath o neges yw hynny i bobl Cymru?"

Ond gwrthod y feirniadaeth mae Alun Cairns gan ddweud bod yna "lot o dir cyffredin" rhwng Llywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru ynglŷn â Brexit.

Wrth siarad ar BBC Radio Wales dywedodd Mr Cairns bod ymweliad Mrs May â Chymru yn "dangos y flaenoriaeth rydyn ni yn osod ar yr undeb."

"Mae hyn yn ymwneud a chael y fargen iawn ar gyfer y Deyrnas Gyfunol gyfan," meddai.