Mae'r unig orsaf radio Gymraeg genedlaethol yn dathlu 40 mlynedd o fod ar yr awyr. Roedd rhaglenni Cymraeg wedi bod yn darlledu ar y donfedd ganol ers yr 1930au, ochr yn ochr â rhaglenni Saesneg. Ond ar fore 3 Ionawr 1977 fe aeth Radio Cymru yn fyw, ac mae'n parhau i fod hyd heddiw. Dyma rai lluniau archif i nodi'r garreg filltir ddiweddara':
Er mai Geraint Jones gyflwynodd y gwasanaeth i'r gwrandawyr, Gwyn Llewelyn (uchod) oedd llais cyntaf y bwletinau newyddionRoedd Alun Williams yn llais cyfarwydd i ddilynwyr newyddion a chwaraeon Radio Cymru tan ei ymddeoliad yn 1982Bu John Roberts Williams yn cyflwyno'r rhaglen wythnosol Tros Fy Sbectol am bron i 30 mlynedd'Mr Radio Cymru' ei hun, Hywel Gwynfryn oedd cyflwynydd rhaglen gyntaf yr orsaf, Helo Bobol! yn 1977Roedd Sulwyn Thomas yn cynnal ei 'Stondin' bob amser cinio am flynyddoedd ar y gwasanaeth cenedlaetholYr actorion Emyr Wyn a Dewi Pws yn 'paratoi' ar gyfer rhaglen o Dros Ben Llestri yn 1987Beti George, Russel Isaacs ac Alan Pickard - cyflwynwyr rhaglenni Ar yr Awr ac O'r Newydd yn yr 1980auIan Gill, Delyth Morgan a Kevin Davies - sêr y gyfres Bambŵ ar Radio Cymru - yn 1989Nia Roberts, un o leisiau mwyaf cyfarwydd yr orsaf ers dyddiau OcsiwniaY band Cwlwm o Lambed yn 1990. Roedd ganddyn nhw eu cyfres eu hunain ar Radio Cymru bob dydd Sadwrn. Ymysg yr aelodau mae Elin Jones (ail o'r chwith), sydd bellach yn Llywydd y Cynulliad, a Shân Cothi (canol) sy'n cyflwyno ar yr orsaf heddiwGarry Owen, Sian Thomas, a Gareth Glyn - cyflwynwyr rhaglen y Post Cyntaf yng nghanol y 90auRhai aelodau o griw Radio Cymru ym Mangor yn 1998Eifion Jones, neu Jonsi fel roedd yn cael ei adnabod gan y genedlRebekah 'Beks' Walters a Dafydd Du - lleisiau ffres i'r orsaf yn y 90auDaf Du yn arwain taith Ram Jam! o amgylch ysgolion CymruDaeth Huw Stephens yn lais amlwg ar Radio Cymru - a thu hwnt - yn y degawd wedi troad y mileniwmManon Rogers, Tudur Owen a Dyl Mei - triawd mwyaf poblogaidd yr orsaf erbyn hyn?Ym mis Medi 2016 fe ddechreuodd gorsaf dros-dro Radio Cymru Mwy ddarlledu fel rhan o ddatblygiadau digidol yr orsaf i nodi ei phen-blwydd yn 40 oed