Sport

Mae Palas Buckingham wedi cyhoeddi bod y Frenhines Elizabeth II wedi marw.

Bu farw yn dawel yn Balmoral ddydd Iau, meddai'r Palas.

Dyma olwg ar ei bywyd mewn lluniau.

1926

Fe gafodd Elizabeth ei geni ar 21 Ebrill 1926 yn Llundain, yn blentyn cyntaf i Albert, Dug Efrog, a'i wraig yr Arglwyddes Elizabeth Bowes-Lyon
Cafodd Elizabeth ei geni ar 21 Ebrill 1926 yn Llundain, yn blentyn cyntaf i Albert, Dug Efrog - yn ddiweddarach y Brenin George VI - a'i wraig yr Arglwyddes Elizabeth Bowes-Lyon PA

1938

Y teulu Brenhinol flwyddyn cyn yr Ail Ryfel Byd
Elizabeth (dde) a'r teulu Brenhinol yn 1938, flwyddyn cyn dechrau'r Ail Ryfel Byd PA

1947

Ar 20 Tachwedd 1947 fe briododd y Dywysoges y Tywysog Philip o Groeg, yn Abaty Westminster
Ar 20 Tachwedd 1947 fe briododd y Dywysoges Elizabeth y Tywysog Philip o Groeg, yn Abaty Westminster PA

1948

Fe gafodd eu mab cyntaf, Charles ei eni yn 1948
Cafodd mab cyntaf y cwpl, y Tywysog Charles, ei eni yn 1948 PA

1953

Fe wyliodd miliynau o bobl ei choroni yn Frenhines ar y teledu am y tro cyntaf yn 1953
Cafodd ei choroni yn 1953 - digwyddiad a gafodd ei wylio gan filiynau dros y byd ar y teledu PA

1961

Roedd y Frenhines a Charles wrth eu boddau yn marchogaeth
Roedd y Frenhines a Charles wrth eu boddau yn marchogaeth, ac roedd ceffylau yn un o ddiddordebau mawr y Frenhines drwy gydol ei bywyd PA

1965

Penblwydd y Frenhines yn 39
Y teulu Brenhinol yn ymgynnull i dynnu llun ar ben-blwydd y Frenhines yn 39. Fe gafodd y Tywysog Edward ei eni flwyddyn ynghynt PA

1969

Arwsigo Tywysog Charles yng Nghastell Caernarfon
Y Tywysog Charles yn cael ei arwisgo fel Tywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon PA

1973

Roedd y Frenhines wrth ei bodd gyda'i chwn corgi
Roedd y Frenhines wrth ei bodd gyda'i chŵn corgi PA

1978

Roedd materion cefn gwlad yn agos at galon y Frenhines
Roedd amaeth a materion cefn gwlad yn agos at galon y Frenhines PA

1984

Llun swyddogol gyda Mam y Frenhines, Y Frenhines, Y tywysogion William a Harry, a Thywysog a Thywysoges Cymru
Y Frenhines mewn llun swyddogol gyda'r Fam Frenhines, y Tywysogion William a Harry, a Thywysoges a Thywysog Cymru yn 1984 PA

1995

Brenhines
Yn cyfarfod arlywydd De Affrica, Nelson Mandela, yn 1995 ar ddechrau ei thaith gyntaf â'r wlad ers 1947 PA

2002

Y Frenhines Elizabeth yn dathlu ei Jiwbilî Aur yn 2002
Y Frenhines Elizabeth yn dathlu ei Jiwbilî Aur yn 2002 - roedd jiwbilî ddiemwnt i ddilyn yn 2012, a phlatinwm yn 2022 Getty Images

2006

Brenhines Elizabeth
Y Frenhines ym Mhalas Buckingham yn darllen rhai o'r cardiau a gafodd eu hanfon ati ar ei phen-blwydd yn 80 PA

2011

Priodas Dug a Duges Caergrawnt
Y teulu brenhinol ar falconi Palas Buckingham i ddathlu priodas Dug a Duges Caergrawnt Getty Images

2016

Brenhines 90
Fe drodd y Frenhines yn 90 oed yn 2016, flwyddyn wedi iddi basio'r Frenhines Victoria fel y person i deyrnasu hiraf yn hanes brenhiniaeth Prydain Getty Images

2016

Y Frenhines a Carwyn Jones
Yn cyfarfod Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ym Mhalas Buckingham ym mis Rhagfyr 2016

2021

Elizabeth II, 2021
Bu'n rhaid i'r Frenhines eistedd ar ei phen ei hun yn angladd Dug Caeredin yn 2021 oherwydd cyfyngiadau Covid Getty Images

2021

Elizabeth II, 2021
Ym mis Hydref 2021 oedd ymweliad olaf y Frenhines â Chymru, ar gyfer agoriad swyddogol y Senedd Getty Images

2022

Cyfarfod Liz Truss
Ei hymddangosiad olaf fel Brenhines oedd cyfarfod Liz Truss i'w gwneud yn brif weinidog ar 6 Medi 2022 Getty Images