Sport

Cymylau cenllysg dros benrhyn deheuol Enlli
Enfys yn ceisio gwthio cawodydd cenllysg mis Tachwedd i ffwrdd Steve Porter

Dyma rai o luniau Steve Porter o'r gaeaf yn cau mewn am Ynys Enlli ym mhen-draw arfordir Pen Llŷn.

Mae Steve a'i wraig Joanna wedi bod yn byw ar Ynys Enlli ers 2007 ar ôl ymateb i hysbyseb yn chwilio am deulu i ddod i fyw ar yr ynys a rhedeg y fferm.

Tan yn ddiweddar roedd eu plant Rachel a Ben hefyd yn byw yno efo nhw ac yn cael eu haddysg gartref. Mae Joanna hefyd yn gweithio i'r RSPB ar yr ynys a Steve yn mwynhau cadw cofnod o'r newid yn y tymhorau gyda'i gamera.

Buwch mewn storm genllysg
Mae'n bwysig i'r anifeiliaid gael digon o fwyd i gadw'n gynnes mewn tywydd gaeafol Steve Porter

"Mae bywyd ar yr ynys yn dymhorol iawn," meddai Steve. "Dydyn ni wedi ein hynysu yn ystod yr haf pan rydyn ni'n rhedeg caffi bach prysur a shop grefftau i'r ymwelwyr dydd a'r bobl sy'n treulio mwy o amser ar yr ynys drwy rentu'r tai.

"Ar ddiwrnod braf o haf fe allai ryw 100 o bobl fod yn crwydro ac archwilio'r darn bach anghysbell yma o dir ond wrth imi ysgrifennu'r ychydig eiriau hyn dim ond tri ohonom ni sydd yma dros y gaeaf."

Cawodydd ar do un o fythynnod Enlli
Cawod drom yn syrthio ar yr ynys Steve Porter
Merch ar ben mynydd Enlli
Rachel, merch Steve, yn edrych draw am y tir mawr o ben mynydd Enlli Steve Porter

"Rydw i wedi treulio'r rhan fwyaf o fy mywyd gweithio yn dysgu gweithgareddau awyr agored ac yn fy arddegau ro'n i'n helpu fy nhad ar ei fferm fynydd ddefaid yng Nghonwy.

"Roedd dipyn o waith dysgu felly i fod yn gyfrifol am fferm 440 erw yr ynys sy'n cadw 26 o wartheg duon Cymreig a 300 o ddefaid mynydd Cymreig."

Daeargwn
Daeargwn Steve yn nannedd y gwynt yn ystod storm ganol Tachwedd Steve Porter
Môr tymhestlog
Gwynt mawr mis Tachwedd yn hyrddio'r tonau tymhestlog ar y creigiau Steve Porter
Enfys dros y swnt
Neb ar y Swnt heddiw Steve Porter
ffigwr unig yn edrych allan am y môr
Gwylio'r niwl yn dod i mewn Steve Porter
Steve yn yr awyr
Mae Steve yn tynnu rhai lluniau o'i baragleidar sydd hefyd yn handi i gadw golwg ar yr anifeiliaid! Steve Porter
Defaid yn mynd at y goleudy
Y defaid yn cael porfeydd newydd o gwmpas y goleudy Steve Porter
Buwch mewn cae mwdlyd
Ychydig iawn o eira sy'n syrthio ar Enlli ac nid yw'n para mwy na ryw hanner awr cyn meiriol meddai Steve - ond mae na ddigon o law i droi'r tir yn gaeau mwd! Steve Porter
Gwynt ar Enlli
Yn ystod y stormydd achosodd ddifrod yng Ngheredigion fis Tachwedd cofnododd Steve wynt o 85 mya ar Enlli Steve Porter

"Ar wahân i'r ffermio, yr her fawr arall inni fel teulu pan symudon ni i Enlli oedd addysg i Rachel a Ben, ein plant, oedd yn 13 ac 11 ar y pryd. Aeth y cyfrifoldeb am hyn i Joanna, fy ngwraig, gan fy mod i'n brysur ar y fferm.

"Daeth pethau ychydig yn haws inni yn ystod ein trydydd blwyddyn pan gawson ni'r we o'r diwedd.

"Dwi'n gobeithio fod y plant wedi cael budd o'r profiad o fagwraeth mor wahanol. Maen nhw i'w gweld wedi troi allan yn iawn ac mae'r ddau wedi eu derbyn i brifysgolion ar y tir mawr.

"Rydw i'n mwynhau ffotograffiaeth ac yn ffodus iawn i fyw ar ynys brydferth mewn gwlad brydferth. Y cyfan sydd raid imi ei wneud ydy cofio cario'r camera efo mi a chymryd gofal i chwilio am yr eiliadau o arbennig."

Mae mae mwy o luniau Steve ar ei dudalen Facebook ↗.