Roedd y tywydd yn sych unwaith eto 'leni ar gyfer Tafwyl ↗. Roedd hi'n benwythnos braf i ddathlu Cymreictod ac wrth gwrs buddugoliaeth hanesyddol tîm pêl-droed Cymru nos Wener! Dyma i chi flas ar y digwyddiadau ar dir Castell Caerdydd trwy lens y ffotograffydd swyddogol Kristina Banholzer. Diolch i Menter Caerdydd ↗ am gael rhannu'r lluniau. Mwynhewch!