Sport

Miliwn a hanner - dyna i chi faint o blant a phobl ifanc Cymru sydd wedi aros yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog ers iddo agor yn 1932.

Bydd arddangosfa arbennig o luniau, 'Jocs, Jeriws a Joio', i'w gweld yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth rhwng 18 Ebrill - 29 Awst.

Mae Urdd Gobaith Cymru, yn garedig iawn, wedi rhannu rhai o'r atgofion gyda Cymru Fyw. 'Sgwn i os ydych chi ymhlith y gwersyllwyr yn y lluniau yma neu'n 'nabod rhai o'r wynebau?

Cysylltwch gyda ni ar e-bost cymrufyw@bbc.co.uk neu ar ein cyfrif Twitter @BBCCymruFyw

Gwersyllwyr cynnar iawn o'r Tymbl a Glan Conwy nôl yn 1932
Gwersyllwyr cynnar iawn o'r Tymbl a Glan Conwy nôl yn 1932 Urdd Gobaith Cymru
Plas Penhelig, un o gabanau Llangrannog. Pwy yw'r ymwelwyr yma?
Plas Penhelig, un o gabanau Llangrannog. Ond tybed pwy yw'r ymwelwyr? Urdd Gobaith Cymru

Cysylltodd Iwan Llwyd gyda Cymru Fyw i gynnig enw i ni:

"Y ferch yn y flows dywyll ar y dde ydy Elizabeth Hughes (Beti) o Bontrhydyfen (1916-2003), un o swyddogion cyntaf yr Urdd. Aeth ymlaen i fod yn athrawes Hanes yn Nhy Ddewi, Cwm Gwendraeth a Chastell-Nedd."

Plant Llangrannog
Pwy ydi'r criw hwyliog yma yng ngwersyll Llangrannog? Urdd Gobaith Cymru
Caban sychu
Wyddoch chi pwy yw'r merched sy'n disgwyl i'w dillad sychu? Urdd Gobaith Cymru
Gobeithio nad oes 'na fechgyn yn cuddio yn y cabanau 'na ferched!
Gobeithio nad oes 'na fechgyn yn cuddio yn y cabanau 'na ferched! Urdd Gobaith Cymru

Mae Ann Wiliam o Groesoswallt wedi cysylltu efo Cymru Fyw gyda'i hatgofion am y llun yma:

"Fi sy'n edrych allan drwy'r ffenestr chwith yn y caban cyntaf. Os cofiaf yn iawn fe dynnwyd y llun gan Geoff Charles yn haf 1954.

"Mae gen i lun arall yn fy meddiant - criw ohonom o Ysgol Brynrefail ac Ysgol Ramadeg Caernarfon y tu allan i gaban ond roedd fy ymgais i anfon y llun gyda neges flaenorol yn aflwyddiannus.

"Mae fy wyresau yn dweud wrthyf fod un o'r lluniau wedi'i chwyddo yn fawr ar y wal yn y ffreutur yn Llangrannog!"

llangrannog
Ann Wiliam

Diolch i Ann am anfon y llun uchod at Cymru Fyw. cafodd y llun ei dynnu yr un diwrnod a'r llun dynnodd Geoff Charles o'r mercehd yn y cabanau. Meddai Ann:

"Meira Owen (Meira Hughes Llanelwy erbyn hyn) yw'r ail o'r chwith yn y blaen a Marian Jones (Corwen erbyn hyn) sydd ar y dde yn y blaen. Dim ond fy mhen i sydd yn y golwg. Roedd rhai o'r gweddill o Gaernarfon."

Gobeithio nad oedd gwynt y mor yn brathu gormod ar y diwrnod yma yn Llangrannog!
Gobeithio nad oedd gwynt y môr yn brathu gormod ar y diwrnod yma yn Llangrannog! Urdd Gobaith Cymru
"Hei, lle mae'n picnic ni?"
"Hei, ble mae'n picnic ni?" Urdd Gobaith Cymru
'Nabod rhai o'r rhain?
'Nabod rhai o'r rhain? Urdd Gobaith Cymru
Mae'r môr 'na yn edrych yn oer, bois bach!
Mae'r môr 'na yn edrych yn oer, bois bach! Urdd Gobaith Cymru
Pwy ydi'r gangster yma a'i edmygwyr?
Pwy ydi'r 'gangster' yma a'i edmygwyr? Urdd Gobaith Cymru
Hyfforddi rygbi yn Llangrannog
"Fel hyn mae gwneud." Pwy ydi'r hyfforddwr a'i ddarpar dîm? uRDD gOBAITH cYMRU
Hoe rhwng ymarferion o bosib? Pwy ydi'r criw dramatig yma?
Hoe rhwng ymarferion o bosib? Pwy ydi'r criw dramatig yma? Urdd Gobaith Cymru
Pwy ydi'r bum brenhines a'r gŵr barfog yn y tei bô?
Pwy ydi'r bum brenhines a'r gŵr barfog yn y tei bô?
Pwy ydi'r merched sydd ar eu ffordd i'r traeth?
Ar y ffordd i'r traeth? Pwy ydyn nhw? Urdd Gobaith Cymru
Fuoch chi ymhlith y rhai fu'n cysgu yn y pebyll gwynion?
Fuoch chi ymhlith y rhai fu'n cysgu yn y pebyll gwynion? Urdd Gobaith Cymru
Sylfaenydd Urdd Gobaith Cymru, Syr Ifan ab Owen Edwards a'i wraig y Fonesig Ellen Edwards yn Eisteddfod yr Urdd
Sylfaenydd Urdd Gobaith Cymru, Syr Ifan ab Owen Edwards a'i wraig y Fonesig Ellen Edwards yn Eisteddfod yr Urdd Llanrwst yn 1968 Urdd Gobaith Cymru