Teyrnged i Gymro yng Nghanada
British Broadcasting CorporationHome
Linciau mynediad
- Neidio i'r cynnwys
- Neidio i system lywio bbc.co.uk
- Neidio i chwilio drwy bbc.co.uk
- Cymorth Hygyrchedd
- Hafan
- Themâu
- Ysgolion
- Hanes Lleol
- Gwylio a gwrando
- Hanes
- Themâu
- Teyrnged i Gymro yng Nghanada
- Yn yr adran
- Adeiladau
- Celtiaid
- Cestyll
- Chwaraeon
- Creu'r genedl
- Cymdeithas a diwylliant Arferion gwerin Crefydd yng Ngymru Creiriau Eisteddfodau Enwogion Hanes teulu Mudo Symbolau Cymru
- Arferion gwerin
- Crefydd yng Ngymru
- Creiriau
- Eisteddfodau
- Enwogion
- Hanes teulu
- Mudo
- Symbolau Cymru
- Digwyddiadau
- Diwydiant
- Morwrol
- Rhyfel Byd: Cyntaf
- Rhyfel Byd: Ail
- Yr Iaith Gymraeg
- Arferion gwerin
- Crefydd yng Ngymru
- Creiriau
- Eisteddfodau
- Enwogion
- Hanes teulu
- Mudo
- Symbolau Cymru
Mae adeilad ar faes awyr yng Nghanada wedi ei enwi ar ôl Cymro. Idris Hughes, o Comox, Ynys Vancouver sy'n dweud yr hanes.
Agorwyd yr adeilad ar gyfer Maes Awyr Dyffryn Comox ar Ynys Vancouver, British Columbia, Canada, ar Ebrill 16, 2004.
Yr enw a ddewiswyd arno oedd F/O C. Cottingham Terminal. Yma y bu'n chwarae ac yma yr aeth i'r ysgol; yr union fan lle saif y Maes Glanio heddiw.
Eu colli dros Fôr y Gogledd
Gadawodd yr ysgol uwchradd yn Comox ym 1939 ac ymuno a'r RCAF. Ym 1942, aeth i Brydain ac ymuno a'r RAF gan hedfan Lancasters o Fiskerton ger Lincoln.
Ym mis Tachwedd 1943, fe'i collwyd ef a'i griw o chwech dros Fôr y Gogledd ac yntau ond yn 25 oed.
Mae Cyril yn cynrychioli nifer o fechgyn ifanc o Ddyffryn Comox a Chanada, a gollwyd yng ngwasanaeth eu gwlad yn ystod yr Ail Rhyfel Byd.
O Gymru 'roedd yn dod. Mary Ann Cottingham oedd ei fam a glöwr oedd William ei dad , o Goginan ger Aberystwyth.
Ymfudodd y teulu i Ynys Vancouver ym 1927 gyda phedwar mab; William, Ron , Cyril a Glyn, a merch, Doreen.
Ganwyd dwy ferch arall, Beryl a Phyllis yn Comox.
Wythnos ar drên
Croesodd y teulu yr Iwerydd ar yr SS Montcalm i New Brunswick gan dreulio wythnos mewn trên wedyn ar draws Canada i Vancouver, ac wedyn llong fechan i Comox , a setlo i lawr ar ddarn o dir yn Lazo.
Naw oed oedd Cyril pan gyrhaeddodd, a chyda'i frawd Glyn, saith, a'i chwaer Doreen, 12, bu iddynt chwyddo poblogaeth yr ysgol fechan un ystafell yn Lazo.
Am amser, ni fedrai'r athrawes ddeall y plant gan mai Cymraeg oedd eu hunig iaith.
Yn un o'i lythyrau adref, ac ar ôl ymweld â rhai o aelodau'r teulu ym Mhrydain, dywedodd Cyril:
"Mae Lloegr yn hynafol a hen ffasiwn a byddaf yn meddwl yn reit aml pam y dewis miliynau o bobl fyw mor glos i'w gilydd ar ynys mor fechan.
"Mi fuaswn yn hoffi ychwaneg o amser i weld mwy ohoni....... Mi 'roeddwn yn hedfan dros Gymru brynhawn ddoe - gwlad gyda'i nentydd, bryniau ac afonydd , ac mae hon yn dlysach fyth."
Brawd a chwaer
Yn ystod y seremoni yn yr adeilad newydd , cefais y fraint o siarad gyda brawd a chwaer Cyril; y ddau yn dal i fyw yn y Dyffryn.
Yn ystod y sgwrs, cyfeiriodd Glyn at y daith hir ar draws yr Iwerydd, ac yna ar hyd Canada i Ynys Vancouver.
Deallwn ei deimladau yn dda gan i minnau hefyd wneud yr un daith 39 o flynyddoedd yn ddiweddarach!
Idris Hughes
Mwy
- Y Crynwyr yng Ngogledd America
- Y Crynwyr: Pam America?
- Y Crynwyr: Cychwyn Gwael
- Cofio Goronwy Owen
- Jones yn Nhalaith Wisconsin
- Frank Lloyd Wright
- Lladdfa Taliesin
- Teyrnged i Gymro yng Nghanada
Cysylltiadau Rhyngrwyd
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Hanes ymfudo o Gymru i Ogledd America
- Prosiect Cymru-Ohio
- Cymdeithas Morgan John Rhys
Cestyll
Oriel Cestyll
Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.
Crefydd
Oes y Seintiau
Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.
- Crefyddau'r byd
Mudo
Dros foroedd mawr
Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.
Symbolau Cymru
Hunaniaeth?
Y stori y tu ôl i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.
BBC iD
- Gosodiadau
- Allgofnodi
Term chwilio:
Llywio drwy’r BBC
- Newyddion
- Sport
- Tywydd
- iPlayer
- TV
- Radio
- Mwy
- CBBC
- CBeebies
- Comedy
- Food
- History
- Learning
- Music
- Science
- Earth
- Local
- Northern Ireland
- Scotland
- Wales
- Full A-Z of BBC sites
Dolenni'r BBC
- Safle Symudol Amodau Defnyddio Ynglŷn â'r BBC
- Safle Symudol
- Amodau Defnyddio
- Ynglŷn â'r BBC
- Preifatrwydd Cymorth Hygyrchedd
- Preifatrwydd
- Cymorth Hygyrchedd
- Cwcis Cysylltu â’r BBC
- Cwcis
- Cysylltu â’r BBC
- Clo i rieni
- Clo i rieni
- Safle Symudol
- Amodau Defnyddio
- Ynglŷn â'r BBC
- Preifatrwydd
- Cymorth Hygyrchedd
- Cwcis
- Cysylltu â’r BBC
- Clo i rieni
BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.