Cymru

BBC - Cymru'r Byd - Eisteddfod Celf a Chrefft 2003

  • Skip to main content
  • Access keys help

Lle rwyf yn ei adnabod yn dda Cyflwyniad DVD a llyfrau artist Mae teitl y gwaith hwn yn eironig, oherwydd bod y 'lle' a ddaeth ag ef i fod wedi newid yn sylweddol ers yr amser a dreuliais yno yng nghartref fu nheulu yn yr 1960au a'r 1970au. Y lle arbennig y cyfeirir ato yw Solfach, yn Sir Benfro, ond gallai fod yn un o nifer o leoedd fel y rhai hynny yng Nghernyw, Ardal y Llynnoedd a Dorset, i enwi dim ond ychydig o enghreifftiau Prydeinig, sydd wedi dod i gael eu gwerthfawrogi am eu hatyniad masnachol fel cyrchfannau gwyliau ac sydd felly yn debyg i 'drefi ysbryd' allan o'r tymor gwyliau. Ceisiaf yn y gwaith gymysgu delwedd a thestun a'r personol drwy ddefnyddio ffotograffau teuluol, gyda'r mwy cyffredinol drwy ddefnyddio pytiau ystrydebol o daflenni gwerthwyr tai ac asiantau gosod bythynnod. O'u cymryd allan o gyd-destun, mae'r dyfyniadau yn ymddangos yn wirion ond eto yn od o delynegol, gan guddio'r byd masnachol y tarddant ohono. Drwy lunio gwaith celf am y prosesau o ddefnyddio a masnacholi lleoliad, anelaf at wneud i bobl ystyried goblygiadau'r prosesau economaidd, cymdeithasol, diwylliannol i fywydau pobl go iawn ac, yn achos Cymru, y prosesau ieithyddol cynhenid sydd ar waith mewn cyd-destun o'r fath. Gobeithir bod y gwaith yn rhoi sylw i'r gwahanol brofiadau sydd ynghlwm wrth le, fel y lliniarir hynny drwy gymhellion amrywiol fel budd ariannol ac agosrwydd teuluol.

Cyfres Cardiau Post 1 Cardiau Post a beiro Mae'r gwaith hwn yn barhad ar thema a ddatblygwyd am y tro cyntaf yn fy nhafluniad golau ar Gastell Abertawe Blue Funk. Mae'r gyfres hon yn gyfatebiad dau ddimensiwn sy'n defnyddio cardiau post fel gwrthrychau parod. Yn yr achos hwn caiff y cardiau post o gestyll eu llinellu mewn beiro las, y deunydd a ddefnyddir amlaf i ysgrifennu neges ar gefn cerdyn post. Mewn dull tebyg i orchuddio Castell Abertawe mewn golau glas, mae'r llinellu yn ffurfio llen dros y castell. Nid yw bellach yn atyniad prydferth i dwristiaid, ond yn ei ddirgelwch gobeithiaf ddatgelu pwrpas gwreiddiol yr adeilad (fel yr awgrymodd yr anthropolegydd Joy Hendry, mae lapio gwrthrych neu ei orchuddio yn aml yn ddull o egluro rhywbeth amdano): canolfan grym gwleidyddol, safle gorthrwm a thyst i frwydr a gwrthdaro. Cafodd cestyll yn aml eu peintio gan artistiaid oherwydd eu hynafiaeth a'u harddwch sydd wedi ei orchuddio gan eiddew, motifau mewn bugeilgerdd wledig ramantus. Fy ymateb i yw defnyddio gwrthrych bob dydd a'i gyflwyno mewn cyd-destun oriel i herio nodweddion esthetig tybiedig y cestyll ac atgoffa'r gwyliwr fod gan yr adfeilion hyn, a fawrygir yn aml fel atyniadau twristaidd ysblennydd un o nodweddion pwysig y diwydiant treftadaeth, hanes arall yr ydym weithiau yn ei anghofio.

Cyfres Cardiau Post II Cardiau post wedi eu torri Ar gyfer y gyfres hon, rwyf wedi dileu'r Ladi Gymreig o gardiau post a gasglwyd o siopau gwerthu pob dim, ac wedi eu cyflwyno naill ai yn wynebu tuag i fyny (i weld gweddill y ddelwedd) neu yn wynebu tuag i lawr i ddatgelu'r negeseuon a ysgrifennwyd ar y cefn, unwaith eto gan eu defnyddio fel gwrthrychau 'parod'. Mae'r Ladi Gymreig yn ddelwedd eiconig arall a ddefnyddir mewn twristiaeth ac wrth ymelwa ar dreftadaeth Cymru. Mae'r wisg wrth gwrs yn rhywbeth a ddychmygwyd o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac a fabwysiadwyd yn eang fel symbol grotésg o hunaniaeth genedlaethol. Mae'r cardiau post a anfonwyd at deuluoedd a ffrindiau dros y blynyddoedd yn hyrwyddo delwedd o Gymru o ddiniweidrwydd, plwyfoldeb a hynodrwydd, ac yn parhau â'r gwawdlun o'r ferch ystrydebol. Yn y cardiau post fe'n gadewir gyda'r tirlun y torrwyd yr eiconau ohonynt, neu'r geiriau yn dweud am brofiadau a phethau y daethpwyd ar eu traws ar wyliau. Mae'r modd yr wyf yn tynnu'r ffigwr allan o bob cerdyn post yn ymosodiad uniongyrchol ar y modd y caiff chwedlau eu creu o ddelweddau o'r fath. O fewn cyd-destun ehangach, mae'r gwaith hefyd yn dangos tirlun heb ffigyrau ynddo, sydd bellach yn ddim mwy na chysgodion ar y waliau boed hynny yn nhirlun lluniau'r cerdyn post neu'r tirlun a gofir ac a ddychmygir a ddisgrifiwyd yn y negeseuon. Mae hyn gobeithio yn arwain y sawl sy'n edrych arnynt i ystyried pethau sy'n absennol yn y tirlun mewn perthynas â'r cyflwr o berthyn neu golled.

Cestyll Nid Caernarfon na Chonwy - hen gewri maen hawddgar mwy, na'r brenin Siarl o Harlech a'i drem-cerdyn-post yn drech na'i orwel o Eryri, na'i friw graig, na'i fôr a'i gri;

ond llen ddulas dros gastell, rhith o ffurf dierth a phell dan wawd, fel ffawd cnaf ar ffo o olwg heddiw'n cilio lwyr ei din i'w 'slawer dydd, yn ôl i lyo'i g'wilydd.

Dere i wyll diawyr hwn, hyd wins o ddyfnder dwnsiwn, at riddfan ap Cynan y co' swn ing hanes sy'n ango a droai'n gwyr dewr yn gig a'u hangau'n llygod Ffrengig

Neu dring i fyny'i dwr e, edrych ar bobol ei odreyn grwm o dan deyrn mor gry', yn daeogion ar dagu. edrych, wir, ystyria chwedl hen eiconau ein cenedl.