BBC - Cymru'r Byd - Eisteddfod Celf a Chrefft 2003
- Skip to main content
- Access keys help
Roeddwn i'n gwybod mai gyrfa yn y maes cynllunio yr oeddwn am ei dilyn erioed ac o'r herwydd, ers yn ifanc iawn, mi wnes i astudio pynciau i'm helpu i gyrraedd y nod yma. Fel y gwelwch o'm portffolio rwyf wedi cynnwys pensaernïaeth yn fy astudiaethau cyn belled ag yr oedd yn bosibl a rwyf wedi parhau â'm diddordeb trwy ddilyn cwrs gradd BA (Anrh) mewn Pensaernïaeth a Chynllunio ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste. Rwyf hefyd yn ysgrifennydd eu pwyllgor pensaernïaeth, Archaos.
Y rheswm dros fynychu'r ysgol bensaernïol hon yn hytrach nag un yng Nghymru yw'r ffaith fod y cwrs rwy'n ei astudio yn radd ddwbl unigryw sy'n cyfuno cynllunio gwlad a thref â phensaernïaeth. Rwy'n teimlo ei bod hi'n bwysig i ddeall y ddau os ydym yn gobeithio gwella'r mannau lle rydym yn byw a'r mannau o'u cwmpas. Os enillaf yr ysgoloriaeth yma rwy'n bwriadu defnyddio'r arian i fy nghynorthwyo i gynnal fy hun tra byddaf yn y Brifysgol fel y gallaf barhau â'm hastudiaethau. Rwy'n gobeithio ennill cymwysterau yn y ddau faes rwyf yn eu hastudio fel y gallaf wneud gwahaniaeth i'n cymdeithas.
Gan fy mod wedi fy magu mewn tref fechan rwy'n gwybod sut deimlad yw bod eisiau gwneud pethau a methu â'u gwneud nhw gan nad oes unrhyw adnoddau i wneud hynny. Rwyf eisiau helpu i roi terfyn ar hyn drwy wella ardaloedd â chanolfannau, adeiladau a chyfleusterau newydd, trwy eu gwneud yn fwy cynaliadwy ac yn haws eu cyrraedd a thrwy anadlu bywyd newydd i mewn i gymunedau bychain. Fy mhrif nod yw datblygu fy nhref enedigol, Aberdaugleddau, a threfi Cymraeg bychan eraill, rhyw ddydd.