Cymru

BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - Rhaglen 2 1914 - 1937 Tudalen 4/8

Y Meirwon Aflonydd

Ar ôl dathlu diwedd y Rhyfel daeth y sobri. Gweddnewidiwyd yr olygfa ym mhob gwlad. Codwyd cofebau a chofgolofnau ym mhob tref a phentref. Ond 'doedd y meirwon ddim wedi marw. Am flynyddoedd i ddod fe fydden nhw'n codi o'u beddau ac yn dychwelyd i aflonyddu ar y byw. 'Roedd yn rhaid ateb y cwestiwn; pwy oedd yn gyfrifol am ladd ieuenctid y cenhedloedd?

Bu farw'r Gymru biwritanaidd Fictorianaidd yn ffosydd y Somme. Gorchuddiwyd heulwen haf y cyfnod Edwardaidd gan nwy gwenwynig y ffosydd; diffoddwyd ffydd. 'Roedd y Rhyfel wedi ysgwyd y byd hyd at ei seiliau. 'Fyddai Cymru, na'r Eisteddfod, na'r byd, byth yr un fath eto.

Os oedd rhai yn chwilo am Iwtopia newydd, 'roedd rhai eraill ar goll mewn byd o wacter ystyr ar ôl i ffosydd y Rhyfel ddechrau cloddio dan seiliau'r Eglwys Gristnogol.

ymalen...

Yng nghystadleuaeth y Goron yn Y Barri ym 1920 'roedd y testun, 'Trannoeth y Drin', yn gwahodd ymdrinaeth â'r Rhyfel a'i effaith, a chyfeiriodd yr enillydd James Evans at y meirw aflonydd. Ond erbyn diwedd y gerdd 'roedd y bardd yn cyfleu optimistiaeth. Ond heddwvh anniddig a gafwyd wedi'r drin. Hyd yn oed ym 1919, 'roedd cytundeb heddwch Versailles a'i gosb drom ar Yr Almaen yn paratoi'r ffordd ar gyfer Rhyfel arall. 'Roedd Rudderford wedi llwyddo i hollti'r atom, Mussolini wedi sefydlu'r Blaid Ffasgaidd yn Yr Eidal a gwrth-Semitiaeth yn dechrau lledaenu yn Yr Almaen. Erbyn Chwefror 1920 'roedd Adolf Hitler ac eraill wedi sefydlu plaid newydd gyda baner newydd, y swastika. Hon oedd y Blaid Natsïaidd.

Yng Nghymru daeth Ymreolaeth yn bwnc llosg eto gyda phobl fel E.T.John ac W. Llywelyn Williams, yr Aelod Seneddol dros fwrdeistref Caerfyrddin a Chadeirydd yr Eisteddfod, yn hybu'r ymgyrch yn ei blaen. 'Roedd ymdeimlad fod angen i Gymru ddechrau o'r dechrau, a rhoi trefn ar ei thy. Os oedd Cymru i oroesi mewn byd mor beryglus a mympwyol, byddai'n rhaid iddi dorri'n rhydd oddi wrth ymerodraeth a phwerau mawrion. 'Roedd datgysylltu'r Eglwys yn un cam ymlaen i'r cyfeiriad hwnnw.

ymlaen...